Cynyddu ymwybyddiaeth o hawliau plant

Erthygl 42 o’r CCUHP: Beth mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ei ddweud?

Dylai Gwladwriaethau sy’n barti i’r Confensiwn ymrwymo i wneud egwyddorion a darpariaethau’r Confensiwn yn hysbys, drwy ddulliau priodol a gweithredol, i oedolion a phlant fel ei gilydd.

Nid oes llawer o ddiben cael hawliau i unigolion os nad yw unigolion yn ymwybodol ohonynt. Mae Erthygl 42 yn cadarnhau rhwymedigaeth Gwladwriaethau i wneud Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn hysbys i oedolion a phlant “drwy ddulliau priodol a gweithredol”.

Rhaid i lywodraethau fod yn gyfrifol am y canlynol:

  • Datblygu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer lledaenu gwybodaeth am y Confensiwn i bob rhan o’r gymdeithas.
  • Lledaenu gwybodaeth am yr CCUHP ymhlith plant a rhieni, mewn cymdeithas sifil, ym mhob sector ac ar bob lefel lywodraethu, gan gynnwys cynlluniau i gyrraedd grwpiau sy’n agored i niwed.
  • Sicrhau bod egwyddorion a darpariaethau’r CCUHP yn cael eu hymgorffori ym mhob cwricwlwm hyfforddi proffesiynol ac mewn codau ymddygiad neu reoliadau ar gyfer gweithwyr proffesiynol megis: swyddogion cyhoeddus, athrawon, swyddogion gorfodi’r gyfraith, yr heddlu, swyddogion mewnfudo, barnwyr, cyfreithwyr, meddygon, gweithwyr iechyd ac yn y blaen.
  • Dylai plant a phobl ifanc gael eu cynnwys yn y broses o gynyddu ymwybyddiaeth o’r CCUHP.
  • Cyfieithu’r CCUHP i bob iaith, gan gynnwys ieithoedd lleiafrifol y wlad.
  • Gwneud yr CCUHP yn hygyrch i bobl sydd ag anabledd.
  • Trosi’r CCUHP i iaith addas i blant.
  • Lansio ymgyrch yn y cyfryngau i hysbysebu’r CCUHP a hawliau plant.
  • Sicrhau bod y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol yn cael mynediad at wybodaeth am gynnydd (neu ddiffyg cynnydd) mewn perthynas â Sylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Proses fonitro ac adrodd ar yr CCUHP 2008

Fel rhan o’r broses adrodd, datgelwyd yn adroddiad Draig Ffynci, 'Ein hawliau ni: ein stori ni' mai dim ond 8% o’n pobl ifanc oedd wedi clywed am yr CCUHP yn yr ysgol. Yn ychwanegol at hyn dangosodd astudiaeth gwmpasu a gwblhawyd gan Achub y Plant yn 2007 fod ansicrwydd ymhlith y proffesiynau ynghylch ystyr hawliau plant, ac mai ychydig iawn o weithwyr proffesiynol oedd wedi cael hyfforddiant, neu wedi darparu hyfforddiant ynghylch hawliau plant.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cydnabod bod angen cefnogi’r gwaith o ddatblygu hyfforddiant ac adnoddau, gan ddarparu ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, a’i bod yn bwysig cynyddu ymwybyddiaeth o’r CCUHP a’i hyrwyddo i ystod eang o gynulleidfaoedd, gan gynnwys plant a phobl ifanc, mewn ffurfiau amrywiol.

Gwelwyd rhai datblygiadau cadarnhaol ers y broses adrodd:

  • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dosbarthu’r Sylwadau Terfynol (y fersiwn ar gyfer oedolion a’r fersiwn ar gyfer plant a phobl ifanc) ac wedi galw cynhadledd mewn partneriaeth â Grwp Monitro CCUHP Cymru ym Mawrth 2009 i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Sylwadau Terfynol newydd 2008 a chychwyn deialog arnynt.
  • Mae Achub y Plant wedi cael arian, drwy Grant Plant a Theuluoedd Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu adnoddau hawliau plant a chefnogi hyfforddiant.
  • Mae Achub y Plant wedi cynhyrchu taflen iechyd yn ymdrin â hawliau plant ar gyfer pob person ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd. Mae hefyd wedi cynhyrchu adnodd yn ymdrin â hawliau plant ar y we (www.childrensrightswales.com) ar gyfer gweithwyr proffesiynol, ac adnodd yn ymdrin â hawliau plant ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 'Children’s Rights: Spice ‘Em Up' ac mae’n datblygu hyfforddiant ar gyfer sectorau penodol.
  • Mae Swyddog Hyfforddi a Datblygu Hawliau Plant gydag Achub y Plant yn datblygu hyfforddiant arbennig i’r sector ar hawliau plant.  
  • Mae’r cwricwlwm ABCh ar gyfer plant a phobl ifanc 7-19 oed yn cynnwys ystyriaeth o’r hawliau sy’n cael eu hategu gan yr CCUHP.
  • Mae’r CCUHP wedi’i ymgorffori yn y strategaeth datblygu gweithlu.
  • Bellach mae Erthyglau’r CCUHP, y Sylwadau Clo a’r Blaenoriaethau i Gymru ar gael ar ffurf Sain, Braille ac Iaith Arwyddion Prydain gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. 
  • Fel rhan o ddathliadau 20fed pen-blwydd yr CCUHP mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu pecyn cymorth yn ymwneud â’r CCUHP adnodd electronig ar gyfer ymarferwyr, rhieni a gofalwyr i’w ddefnyddio gyda phlant a phobl ifanc.
  • Fel rhan o Ddathliad Llywodraeth Cynulliad Cymru o’r CCUHP 2010 bydd Pecyn Cymorth yn Hyrwyddo Delweddau Cadarnhaol yn cael ei lansio er mwyn cefnogi delweddau cadarnhaol o blant a phobl ifanc yn y cyfryngau.  
  • Mae Erthygl 42 yn flaenoriaeth amlwg yn y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Hawliau Plant.

Mae rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud wrth geisio gweithredu Erthygl 42 yng Nghymru, ond mae angen gwneud llawer mwy o waith er mwyn datblygu dealltwriaeth plant a phobl ifanc, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol o hawliau plant. 

Ar ran Llywodraeth y Cynulliad, ysgrifennodd Achub y Plant adroddiad mapio sydd wedi nodi bylchau y mae angen rhoi sylw iddynt wrth weithredu Erthygl 42 a datblygu argymhellion. Mae’r argymhellion hyn yn sail i lawer o waith presennol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y maes yma. Cafodd Grwp Erthygl 42 (is-grwp o Grwp Monitro’r CCUHP) ei sefydlu ym mis Ebrill 2010 er mwyn tynnu ynghyd nifer o asiantaethau er mwyn cefnogi datblygiad strategol mentrau sy’n cynyddu ymwybyddiaeth yng Nghymru.

Cewch wybod mwy am yr hyn y mae asiantaethau eraill yn ei wneud er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o hawliau plant a pha adnoddau sydd ar gael i weithwyr proffesiynol, plant a phobl ifanc, rhieni ac aelodau etholedig yn ein hadran addysg a hyfforddiant.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk