Monitro ac adrodd am hawliau plant

Mae trefniadau monitro ac adrodd am yr CCUHP yng Nghymru wedi gwella llawer ers proses adrodd 2002 i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae Grwp Monitro CCUHP Cymru wedi cynyddu o ran maint a chryfder gan annog mwy o gyrff anllywodraethol a sefydliadau academaidd i ymwneud ag adroddiadau amgen cyrff anllywodraethol yn ogystal â galw ar y Llywodraeth a’r Comisiynydd Plant i gyflawni eu swyddogaeth adrodd.

Yn ychwanegol at hyn, mae adroddiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwella. Fel rhan o broses adrodd 2008 cynhyrchodd Llywodraeth y Cynulliad ei chyhoeddiad ei hun ar fonitro cynnydd â’r CCUHP yng Nghymru.

Yn ystod proses adrodd 2008 hefyd gwelwyd yr adroddiad cyntaf ar y Confensiwn gan bedwar Comisiynydd Plant y Deyrnas Unedig, gyda phob un o’r pedwar Comisiynydd Plant yn mynychu’r gwrandawiad cyn y sesiwn a’r sesiwn i ofyn cwestiynau yn ymwneud ag adroddiad Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf.

Yn olaf, ac yn bwysicaf, cynhaliodd Draig Ffynci astudiaeth ymchwil fanwl o hawliau plant. Roedd yr astudiaeth hon yn cael ei harwain gan gymheiriaid, ac roedd yn torri tir newydd gan ei bod yn adrodd ar yr CCUHP ar ran plant a phobl ifanc ac yn mynegi barn y plant eu hunain yn uniongyrchol i’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn.

Roedd pob un o’r adroddiadau hyn yn ganlyniad cydweithio sylweddol rhwng aelodau a’u rhwydweithiau proffesiynol amrywiol ac ymgysylltu â chyrff perthnasol mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Proses adrodd y Cenhedloedd Unedig 2008

Llywodraeth y Deyrnas Unedig - Cydgysylltwyd adroddiad Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig yn 2007 gan yr Adran Addysg a Sgiliau a chafwyd cyflwyniadau gan bob un o’r pedair gwlad sy’n rhan o’r Deyrnas Unedig. Roedd dirprwyaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wrandawiad y Pwyllgor yn 2008 yn cynnwys sylwadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r tair gwlad ddatganoledig.

Llywodraeth Cynulliad Cymru - Am y tro cyntaf ers cadarnhau’r Confensiwn cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei hadroddiad ei hun, Gweithredu’r Hawliau, a gyhoeddwyd i bobl Cymru ynghyd â fersiwn addas i blant a phobl ifanc. Yn ychwanegol at hyn, mewn ymateb i’r rhestr o bwyntiau a gyflwynwyd i Wladwriaeth y Deyrnas Unedig gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn ystod y broses adrodd, datblygodd Llywodraeth Cynulliad Cymru restr o 16 blaenoriaeth allweddol yn ymwneud â hawliau ar gyfer Cymru.

Comisiynydd Plant Cymru - Am y tro cyntaf paratôdd pedwar Comisiynydd Plant y Deyrnas Unedig adroddiad i’w gyflwyno i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a mynychodd pob un o’r pedwar Comisiynydd y gwrandawiad cyn sesiwn ym Mehefin 2008 a gwrandawiad y Wladwriaeth ym Medi 2008.

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - Er mai newydd gael ei sefydlu roedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol cyflwynodd yntau adroddiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Grwp Monitro CCUHP Cymru - Cydgysylltwyd ‘adroddiad amgen’ cyrff anllywodraethol Cymru gan Grwp Monitro CCUHP Cymru. Cyflwynodd fersiwn llawn a chryno o’i adroddiad, Aros, Edrych, Gwrando – sut mae gwireddu hawliau plant yng Nghymru’.

Draig Ffynci - Ers yr adroddiad cyntaf i’r Pwyllgor yn 1994, mae sylw cynyddol wedi’i roi i farn plant a phobl ifanc ac mae wedi cael ei hystyried yn adroddiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chymru.

Yn ystod proses adrodd 2008 cynhaliodd Draig Ffynci – Y Cynulliad i Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru – ei rhaglen ymchwil ei hun, yn cael ei harwain gan gymheiriaid, er mwyn casglu barn a phrofiadau plant a phobl ifanc ledled Cymru’n annibynnol. ‘Ein Hawliau Ni: Ein Stori Ni’, y prosiect cyntaf o’i fath drwy’r byd i gyd, oedd sail cyflwyniad Draig Ffynci i’r Pwyllgor yn 2008 ac aeth dirprwyaeth o bobl ifanc i’r gwrandawiad yng Ngenefa i gyflwyno’u tystiolaeth. Cyflwynodd Draig Ffynci ddau adroddiad, Ein hawliau ni: Ein stori ni (11-18), a Pam fod oed pobl yn mynd fyny nid lawr? (7-10) )

Darllenwch am gyflwyniad y bobl ifanc i Bwyllgor yr CCUHP yma.

Sylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 2008

Rhyddhawyd Sylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar 3 Hydref 2008. Mae copi llawn i’w weld yma a cheir fersiwn addas i blant yma.

Cynhelir y broses adrodd nesaf yn 2014. Bydd pob un o’r sefydliadau uchod yn dal i fonitro gweithrediad y Confensiwn ac yn adrodd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig bryd hynny.

Casglu data am blant

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wedi nodi’n aml ei bod yn amhosibl asesu i ba raddau y mae’r Confensiwn wedi cael ei weithredu na deall realiti bywydau plant yn iawn ac ymateb o ganlyniad i broblemau a nodwyd ag atebion angenrheidiol heb gasglu digon o ddata, gan gynnwys data wedi’u dadgyfuno (data ar gyfer grwpiau o blant, e.e. plant mewn gofal, plant o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig, ceiswyr lloches, plant anabl, plant mewn tlodi ac ati).

Yn genedlaethol – Monitor lles plant a phobl ifanc

Mae’r monitor lles plant a phobl ifanc yn canolbwyntio ar les plant a phobl ifanc 0 i 18 oed yng Nghymru, gyda’r bwriad o greu darlun cyflawn o’u bywydau. Mae’n dod ag ystadegau ac ymchwil o nifer o wahanol ffynonellau at ei gilydd ac yn adrodd am nifer o wahanol ddangosyddion lles plant.

Y monitor yw’r cyntaf o’i fath ar gyfer Cymru. Mae’n seiliedig ar themâu a gymerwyd o saith nod craidd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n cael eu hategu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Mae’r Monitor hefyd yn adrodd am gynnydd ar sail targedau tlodi plant Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan eu gosod yng nghyd-destun beth bynnag arall a wyddom am amgylchiadau a phrofiadau plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Mae’r gwaith o ddatblygu fersiwn diwygiedig o’r Monitor ar gyfer 2010 wedi dechrau. Bydd hwn yn adrodd am les mewn cysylltiad llawer agosach â’r CCUHP.

Arolwg cenedlaethol newydd i Gymru

Mae holiadur plant a phobl ifanc yn cael ei gynnwys fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2009-10 – sy’n beilot ar gyfer arolwg cenedlaethol posib a fyddai’n cael ei gynnal yn flynyddol. Bydd arolwg 2009-10 yn cynnwys holiadur i’w gwblhau gan blant a phobl ifanc 10 i 15 oed. Mae cwestiynau penodol wedi’u cynnwys yn yr holiadur hwn am weithgareddau hamdden, lles cyffredinol, cyfranogiad mewn prosesau gwneud penderfyniadau a lefelau ymwybyddiaeth o’r CCUHP. Bydd y pynciau hyn hefyd yn cael eu cynnwys ym Monitor Lles 2010. Ar ôl cwblhau arolwg 2009-10 gobeithir y bydd yr Arolwg Cenedlaethol yn cael ei gynnal yn flynyddol.

Yn lleol – Prosiect datblygu fframwaith ar gyfer dulliau mesur canlyniadau

Mae’r canllawiau ar gyfer Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc, fel y maent wedi’u nodi yn Cynllunio ar y Cyd i Wella Canlyniadau (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2007) yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Gan ddefnyddio dull ‘atebolrwydd sy’n seiliedig ar ganlyniadau’, bydd prosiect Fframwaith ar gyfer Dulliau Mesur Canlyniadau’n ceisio dynodi a sicrhau cytundeb ynghylch cyfres o ddulliau mesur data i’w defnyddio ar ffurf Fframwaith ar gyfer Dulliau Mesur Canlyniadau a fydd yn dangos y gwahaniaeth yn y boblogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc mewn ardal partneriaeth plant a phobl ifanc. Bydd wedi’i strwythuro i adlewyrchu’r CCUHP fel y mae wedi’i grynhoi yn y saith nod allweddol. Bydd y Fframwaith ar gyfer Dulliau Mesur Canlyniadau’n cael ei gyhoeddi yn Ebrill 2010, yn dilyn ymgynghoriad. Bydd yn cynnwys mesuryddion lefel uchel y mae’n rhaid i bob Cynllun adrodd arnynt, a grwpiau o fesuryddion ychwanegol y gellir dewis o’u plith er mwyn mesur perfformiad ar sail blaenoriaethau lleol. Gobeithir y bydd y Fframwaith, pan fydd wedi’i ddatblygu’n llawn, yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad i adrodd am berfformiad wrth weithredu hawliau plant yng Nghymru. Edrychwch ar adran Gwasanaethau ‘r wefan am wybodaeth wrth iddi gael ei diweddaru.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk