Rhieni a Gofalwyr

Mae Erthygl 42 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud y dylai pob oedolyn a phlentyn wybod am y Confensiwn. Mae rhieni a gofalwyr yn hanfodol ar gyfer helpu’u plant i fod yn ymwybodol o’u hawliau, eu deall ac arfer yr hawliau hynny. Mae hyn yn arbennig o wir yng nghyswllt plant ifanc iawn nad ydynt eto'n gallu arfer eu hawliau ar eu pen eu hunain.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd ar Hawliau’r Plentyn yn cefnogi rôl y rhieni yn magu'u plant. Mae Erthygl 5 o’r Confensiwn yn datgan y dylai llywodraethau barchu cyfrifoldebau, hawliau a dyletswyddau rhieni a/neu ofalwyr i gyfeirio a chynghori’u plant fel y byddant, wrth dyfu, yn dysgu defnyddio’u hawliau’n briodol.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn delio â phob agwedd ar fywyd plentyn, gan gynnwys bywyd teuluol, yr ysgol, iechyd, chwarae, hamdden a gwaith. Bwriad yr hyfforddiant hwn yw helpu rhieni i ddeall a chefnogi'r Erthyglau (hawliau) sy'n siarad yn uniongyrchol am fywyd teuluol a hefyd i'w gwneud yn ymwybodol o'r ystod hawliau, gan gynnwys sut maen nhw'n gweithio, eu hystyr a sut y gall rhieni gefnogi'u plant i'w harfer.

Mae 3 chwrs hyfforddi gwahanol wedi’u nodi isod, un ar gyfer rhieni biolegol a llys-rieni, un ar gyfer rhieni sy'n mabwysiadu ac un ar gyfer rhieni maeth. Mae hawliau penodol yn gysylltiedig â gofal maeth a mabwysiadu, ac felly mae elfennau ychwanegol wedi'u cynnwys yn y ddau gwrs olaf i ddelio â'r hawliau hyn.
 
I gael rhagor o wybodaeth am y rheswm pam y mae pobl angen hyfforddiant ar y Confensiwn ewch i’r adran Codi Ymwybyddiaeth ar y dudalen Hawliau Plant yng Nghymru.

Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol, yn cefnogi neu’n gweithio gyda rhieni a gofalwyr ac yn chwilio am hyfforddiant i chi eich hun neu i’ch sefydliad, ewch i’r dudalen Gweithwyr Proffesiynol i gael cyrsiau hyfforddiant.

Manylion cysylltu Achub y Plant
Ffôn:

Pecynnau hyfforddi (dolenni i’w llwytho oddi ar y wefan):
Nodyn: Gyda phob sleid PowerPoint y mae Prif Bwyntiau Dysgu a disgrifiadau o’r gweithgareddau. Er mwyn cael gafael ar y rhain bydd angen arbed y cyflwyniad PowerPoint i’ch cyfrifiadur a'i agor wedyn yn y wedd ‘normal’. Er mwyn arbed naill ai’r sleidiau PowerPoint neu’r Amlinelliad o’r Cwrs, ewch i 'Ffeil' a 'Dewisiadau Cadw' (Save as).


• Rhieni biolegol, llys-rieni, aelodau eraill o’r teulu (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
• Rhieni sy’n mabwysiadu (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
• Rhieni maeth (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk