Diwygio’r gyfraith a pholisi
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.
-
Gweler isod am yr adroddiad cynnydd diweddar ar Fesurau Cyffredinol o Weithredu yng Nghymru.
Cyflwynwyd yr areithiau isod yn y seminar diweddar ‘Beth sydd nesaf yn Hawliau Plant?” ar 5 Gorffennaf 2011. Rhian Croke yw’r Swyddog Polisi Hawliau Plant i Achub y Plant ac mae hi’n rhan o grŵp monitor UNCRC yng Nghymru sydd wedi eu gwesteia gan Achub y Plant. Mae Lothar Krappman yn gyn-aelod o bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn.
Araith Rhian Croke Araith Lothar Krappman
- Yn 2010 llwyddodd Grŵp Monito CCUHP Cymru, gyda phartneriaid, i lobïo dros osod dyletswydd gyfreithiol ar Weinidogion Cymru i roi ystyriaeth ddyledus i hawliau a rhwymedigaethau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a'i Brotocolau Dewisol wrth gyflawni eu swyddogaethau. I weld yr amserlen ddeddfwriaethol a'r dystiolaeth a gyflwynwyd gerbron y Pwyllgor Deddfwriaeth yn ystod y broses graffu, cliciwch yma
-
Ar 18 Ionawr 2011, pasiwyd y ddeddfwriaeth hollbwysig hon, y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), gan y Cynulliad gyda chefnogaeth unfrydol yr holl bleidiau. I weld y mesur, cliciwch yma
Cyflwynir y ddeddfwriaeth mewn dau gam: yn gyntaf, o 1 Mai 2012, bydd y Mesur yn berthnasol wrth greu cyfraith neu bolisi newydd neu wrth adolygu polisïau cyfredol ac yna o 1 Mai 2014, bydd yn berthnasol i holl swyddogaethau Gweinidogion Cymru. Bydd hefyd yn cyflwyno'r ddyletswydd i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o CCUHP.
-
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ddyletswyddau penodol i Gymru o dan ddyletswydd y sector cyhoeddus o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Ar hyn o bryd cynigir bod ysgolion wedi’u heithrio o’r dyletswyddau penodol hyn yng Nghymru, a bydd Grŵp Monitro CCUHP yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn ac yn dadlau dros gynnwys ysgolion yn y dyletswyddau ac yn erbyn camwahaniaethu pellach yn erbyn plant sy’n byw yng Nghymru. Edrychwch ar yr ymgynghoriad yma. Darllenwch fwy am y dyletswyddau penodol yng Nghymru ac am safiad Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yma.
- Gallwch ddarllen adroddiad diwethaf Grŵp Monitro CCUHP ar gynnydd ar gyfraith a pholisi yng Nghymru i’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn yma.