Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cyn Hydref 2007, nid oedd corff unigol yn gyfrifol am hybu a diogelu hawliau dynol - oedolion na phlant - ym Mhrydain. Yn 2006 diddymodd y Ddeddf Cydraddoldeb y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Cyfle Cyfartal a’r Comisiwn Hawliau Anabledd a chreu Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol newydd yn eu lle. Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r corff hawliau dynol annibynnol cyntaf – y sefydliad hawliau dynol cenedlaethol ar gyfer y Deyrnas Unedig

Mae’r Comisiwn yn gorff statudol ac fe’i sefydlwyd ar 1 Hydref 2007. Cymerodd gyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal drosodd, gan ddod â gwaith y cyrff blaenorol at ei gilydd ac ychwanegu ato. Mae’n eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym mhob rhan o Brydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau cysylltiadau da rhwng pobl, a hybu a diogelu hawliau dynol.

Mae ganddo hefyd fandad unigryw i hybu dealltwriaeth o’r Ddeddf Hawliau Dynol yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsrywiol, ac yn annog cydymffurfiad â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Bydd hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i unigolion, i’r sectorau gwirfoddol a chyhoeddus, ac i fusnesau.

Cymru

Mae Comisiwn Cymru, sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd ac ym Mangor, yn bodoli er mwyn sicrhau bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ystyried anghenion Cymru.

Mae’n gwneud hyn drwy gael Comisiynydd Cymru, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru a thîm o staff a phwyllgor statudol, sy’n goruchwylio’r gwaith ac yn gweithio mewn cysylltiad agos â Chynulliad Cymru a sefydliadau eraill yng Nghymru.

Gorfodi’r Gyfraith

Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 wedi rhoi pwerau cyfreithiol helaeth i orfodi deddfau cydraddoldeb i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae ganddo gyfarwyddiaeth o gyfreithwyr arbenigol a gall ddwyn achos cyfreithiol ar ran unigolion mewn amgylchiadau penodol, a gweithio er mwyn creu cynseiliau cyfreithiol ac egluro a gwella’r gyfraith. 

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010  yn disodli’r deddfau gwrth-wahaniaethu blaenorol gydag un Ddeddf sy’n llawer haws ac yn fwy cyson, ac ymhlith pethau eraill, mae’n gosod dyletswydd ar y sector cyhoeddus i leihau anghydraddoldebau. Edrychwch ar y wybodaeth ar wefan y Comisiwn yma.

Gall y Comisiwn ymarfer ei swyddogaethau mewn perthynas â ‘hawliau dynol’. Gallai hyn gynnwys yr CCUHP. Gallai’r Comisiwn, er enghraifft, ddefnyddio’i bwerau i gynnig cyngor a deunydd i gefnogi’r gwaith o hybu hawliau dynol plant wrth gynllunio a chomisiynu gwasanaethau i blant a phobl ifanc yn unol â Deddf Plant 2004.

Yn ychwanegol at hyn, dan y Ddeddf Cydraddoldeb, gellir ystyried plant a phobl ifanc fel ‘cymuned’ wedi’i diffinio gan oedran, y gallai’r Comisiwn wneud sylwadau ar ei rhan a herio mesurau (gan gynnwys mesurau deddfwriaethol) sy’n cael effaith anffafriol iawn ar blant a phobl ifanc. Serch hynny mae plant wedi’u heithrio rhag y ddyletswydd ‘nwyddau a gwasanaethau’ – gweler yma am ragor o wybodaeth.

Mae gan y Comisiwn bwerau hefyd i orfodi dyletswyddau cydraddoldeb sefydliadau ac awdurdodau, ac i sefydlu ymholiadau ac ymchwiliadau ffurfiol.

Mewn sefyllfaoedd lle mae’n debygol y bydd hawliau dynol yn cael eu treisio mae gan y Comisiwn hawl i fynd ag achosion i adolygiad barnwrol dan y Ddeddf Hawliau Dynol. Gall hefyd ymyrryd mewn achosion hawliau dynol sy’n cael eu dwyn gan eraill.

Adroddiadau Hawliau Dynol

Fel corff hawliau dynol swyddogol mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol rôl allweddol i’w chwarae wrth ymgysylltu â system hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig. Un o rolau’r Comisiwn yw cyflwyno tystiolaeth ac adroddiadau i’r pwyllgorau hawliau dynol rhyngwladol amrywiol, ynghylch y sefyllfa ym Mhrydain.

Yn 2008 cyflwynodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol adroddiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Gweithio gyda phobl ifanc

Ochr yn ochr â blaenoriaethau strategol y Comisiwn maent wedi lansio nifer o brosiectau sy’n dod â phobl ifanc na fyddai’n cyfarfod fel arall at ei gilydd i ddod i adnabod a deall ei gilydd yn well. Drwy’r prosiectau creadigol hyn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n siarad yn uniongyrchol â phobl ifanc, mae’r Comisiwn yn ceisio creu cenhedlaeth iau sy’n derbyn cydraddoldeb a hawliau dynol yn llwyr.

Cysylltu

Llinell gymorth Cymru:

Gwefan y Comisiwn

Y Comisiwn yng Nghymru

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk