Aelodau etholedig

Mae Erthygl 42 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud y dylai pob oedolyn a phlentyn wybod am y Confensiwn. Yn Sylwadau Cloi Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn 2008, dywedodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru wneud yn siwr bod oedolion a phlant yn gwybod am y Confensiwn ac yn ei ddeall, a bod yn rhaid darparu hyfforddiant ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i bob oedolyn sy'n gweithio gyda phlant.

Os caiff ei basio, bydd y Mesur arfaethedig ar gyfer Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn cael effaith fawr ar y ffordd y mae hawliau plant yn cael eu deall yng Nghymru. Bydd y gweinidogion yn gorfod rhoi sylw dyledus i'r CCUHP mewn unrhyw benderfyniadau strategol y byddant yn eu cymryd. Bydd hyn yn anochel yn effeithio yn ei dro ar Awdurdodau Lleol. O dan y Mesur hefyd, bydd dyletswydd uniongyrchol yn cael ei roi ar Weinidogion i sicrhau bod oedolion a phlant yn gwybod am egwyddorion a darpariaethau’r Confensiwn.

Ar ôl derbyn y Sylwadau Cloi yn 2008, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi llunio Cynllun Gweithredu Cenedlaethol, Cael Pethau’n Iawn, i ddatblygu’r gwaith o roi'r Confensiwn ar waith dros y 5 mlynedd nesaf. Bydd llawer o’r camau a gynigir yn y Cynllun Gweithredu hwn yn cael effaith uniongyrchol ar Awdurdodau Lleol.

Er mwyn i blant a phobl ifanc allu arfer eu hawliau’n llawn, bydd angen i aelodau etholedig a chynrychiolwyr eraill sy'n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc ddeall y Confensiwn a sut i fabwysiadu dull gweithredu sy'n ystyriol o blant wrth lunio polisïau a gwneud penderfyniadau.
 
I gael rhagor o wybodaeth am y rheswm pam y mae pobl angen hyfforddiant ar y Confensiwn ewch i’r adran Codi Ymwybyddiaeth ar y dudalen Hawliau Plant yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys:
• Cynghorwyr lleol, Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad
• Llywodraethwyr ysgol
• Ynadon Lleyg

Mae’r adran hon yn cynnwys adnoddau sydd wedi'u teilwra'n benodol i bob un o'r uchod, ac fe gewch lwytho pecyn hyfforddi byr oddi ar y wefan y gellid ei gyflwyno i unrhyw un o'r grwpiau uchod.
Os ydych yn chwilio am hyfforddiant mwy arbenigol, edrychwch ar y pennawd perthnasol o dan y tab ‘Gweithwyr Proffesiynol’. Er enghraifft, gallai fod yn ddefnyddiol i Gynghorwyr Lleol sy’n eistedd ar y pwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol edrych ar y cwrs hyfforddiant i Weithwyr Cymdeithasol.

Manylion cysylltu Achub y Plant
Ffôn:

Pecynnau hyfforddi (dolenni i’w llwytho oddi ar y wefan):
Nodyn: Gyda phob sleid PowerPoint y mae Prif Bwyntiau Dysgu a disgrifiadau o’r gweithgareddau. Er mwyn cael gafael ar y rhain bydd angen arbed y cyflwyniad PowerPoint i’ch cyfrifiadur a'i agor wedyn yn y wedd ‘normal’. Er mwyn arbed naill ai’r sleidiau PowerPoint neu’r Amlinelliad o’r Cwrs, ewch i 'Ffeil' a 'Dewisiadau Cadw' (Save as).

Cynghorwyr lleol (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Aelodau’r Cynulliad (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Aelodau Seneddol (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Llywodraethwyr ysgol (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Ynadon Lleyg (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk