Ewch i'n llyfrgell o adnoddau hawliau plant o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol

Darllen Mwy

Darllenwch am y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf yn ymwneud â hawliau plant yng Nghymru

Darllen Mwy

Cynlluniwyd y wefan hon er mwyn helpu ymarferwyr lleol, llunwyr polisïau, rheolwyr a strategyddion i ddatblygu eu dealltwriaeth o hawliau plant a sut i sicrhau eu bod yn ystyried hawliau plant yn eu gwaith.

Cynhyrchir Hawliau Plant Cymru gan Achub y Plant ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae llawer o’n partneriaid – yn enwedig Grwp Monitro CCUHP Cymru - yn ymwneud â’r gwaith parhaus o ddatblygu’r adnodd hwn ar y we.

Lluniwyd y wefan gyda’r bwriad o wneud y gwaith o lywio drwy’r deunydd mor syml ag sy’n bosib. 

Sut mae defnyddio'r wefan hon 

  • Ynglyn a hawliau plant
    Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am hawliau plant, hawliau dynol a hawliau plant mewn perthynas â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.
  • Hawliau plant yng Nghymru
    Cyflwynir darlun yma o’r hyn sy’n digwydd yng nghyswllt gweithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yng Nghymru.
  • Newyddion a digwyddiadau
    Cyflwynir gwybodaeth reolaidd i’r defnyddiwr am y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf sy’n gysylltiedig â hawliau plant yng Nghymru a thu hwnt.
  • Addysg a hyfforddiant
    Darperir gwybodaeth reolaidd i weithwyr proffesiynol, rhieni/gofalwyr a phlant a phobl ifanc am y datblygiadau diweddaraf sy’n gysylltiedig â hawliau plant ym maes addysg a hyfforddiant.
  • Llyfrgell
    Cronfa ddata sy’n cael ei datblygu o hyd, ac sy’n rhestru adnoddau hawliau plant sydd wedi’u creu yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac mewn rhannau eraill o’r byd.
  • Grwp Monitro CCUHP Cymru
    Darperir gwybodaeth am y gynghrair genedlaethol o gyrff anllywodraethol a’u gwaith parhaus o fonitro’r modd y mae’r Llywodraeth yn gweithredu’r CCUHP.
  • Gwasanaethau cyhoeddus
    Rhan o’r wefan sydd wedi’i chynllunio er mwyn helpu gwasanaethau cyhoeddus ym mhob cwr o Gymru i roi lle amlwg i hawliau plant wrth ddarparu eu gwasanaethau.
  • Dysgu o brofiad
    Cronfa ddata sy’n cael ei datblygu o hyd, ac sy’n cynnwys enghreifftiau o sut mae cyrff eraill yn ymateb i’r her o roi hawliau plant ar waith yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

 

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk