Addysg a hyfforddiant

Erthygl 42 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn: Beth mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ei ddweud?
 

Dylai Gwladwriaethau sy'n bartïon sicrhau bod oedolion a phlant yn gwybod am egwyddorion a darpariaethau’r Confensiwn, a hynny drwy ddulliau priodol a gweithredol. Ni fydd hawliau o fawr werth i unigolion os nad ydynt yn gwybod amdanynt. Mae Erthygl 42 yn cadarnhau dyletswydd Gwladwriaethau sy'n bartïon i roi gwybod am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn drwy ddulliau priodol a gweithredol i oedolion a phlant.
Os caiff ei basio, bydd y Mesur Arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn gosod dyletswydd uniongyrchol ar Weinidogion i sicrhau bod oedolion a phlant yn gwybod am egwyddorion a darpariaethau’r Confensiwn.

 Y broses ar gyfer monitro’r Confensiwn ac adrodd arno 2008 

Yn ddiweddar, bu Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn edrych ar y cynnydd a oedd wedi’i wneud yn rhoi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar waith yn y Deyrnas Unedig a'r Tiriogaethau Tramor. Fel rhan o’i adolygiad, bu’r Pwyllgor hefyd yn ystyried y cynnydd yr ydym ni yng Nghymru wedi’i wneud yn sicrhau hawliau plant a phobl ifanc o dan y Confensiwn.
Fel rhan o’r broses adrodd, nodwyd yn yr adroddiad “Ein hawliau ni: Ein stori ni” gan y Ddraig Ffynci mai dim ond 8% o bobl ifanc oedd wedi cael gwybod am y Confensiwn yn yr ysgol. Yn ogystal â hyn, datgelodd astudiaeth gwmpasu gan Achub y Plant yn 2007 bod ansicrwydd ar draws y proffesiynau am yr hyn a olygir wrth hawliau plant a dim ond nifer bach o weithwyr proffesiynol oedd wedi cael hyfforddiant neu'n darparu hyfforddiant ar hawliau plant. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cydnabod bod angen cefnogi’r gwaith o ddatblygu adnoddau a hyfforddiant, a hynny ar gyfer yr holl weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc a’i bod yn bwysig codi ymwybyddiaeth o’r Confensiwn a’i fod yn cael ei hyrwyddo ymysg ystod eang o gynulleidfaoedd gan gynnwys plant a phobl ifanc mewn fformatau amrywiol. 

 

Adnoddau hyfforddiant  

 Ar y tudalennau hyn, fe welwch adnoddau hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol, plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr ac aelodau etholedig. Er ein bod wedi ceisio creu adnoddau wedi’u teilwra’n arbennig i bob grwp, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi edrych ar yr holl dudalennau. Er enghraifft, o dan ‘aelodau etholedig’ y mae cwrs hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgol. Fodd bynnag, efallai y byddai’n ddefnyddiol i lywodraethwyr edrych hefyd ar yr adnoddau i athrawon o dan ‘gweithwyr proffesiynol’.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk