Beth yw hawliau dynol?

Mae’r dudalen hon yn rhoi cyflwyniad i’r cysyniad o ‘hawliau’ a’r mathau o hawliau y mae gan bob bod dynol – oedolion a phlant – hawl iddynt. Mae’r cysyniad o hawliau wedi bod yn bresennol mewn llawer o gymdeithasau ym mhob cwr o’r byd drwy gydol ein hanes.

Yn Ewrop, fodd bynnag, ni ddechreuwyd mynegi syniadau yn ymwneud â ‘hawliau naturiol’, h.y. bod gan rywun hawliau oherwydd ei fod yn fod dynol yn hytrach na dinesydd gwlad benodol, mewn gwirionedd tan yr 17eg a’r 18fed ganrif. Bwriedir i’r hawliau hyn warantu angen sylfaenol bodau dynol i oroesi a datblygu â pharch a chydraddoldeb, i gyflawni ein potensial yn llawn ac i ffynnu a chyfranogi’n llawn mewn cymdeithas.

Mae hawliau’n rhoi hawliadau moesol i bawb mewn perthynas ag ymddygiad unigolion ac mewn perthynas â threfniadau cymdeithasol ac, yn anad dim, maent yn rheoleiddio’r berthynas rhwng y wladwriaeth ac unigolion.

Sut mae hawliau’n cael eu gwireddu?

Os yw pawb yn ddeiliaid hawliau, ac os oes ganddynt hawl foesol a chyfreithiol i wybod y bydd eu hawliau’n cael eu diogelu, yna mae’n hanfodol bod y rhai hynny sy’n gyfrifol am gyflawni mewn perthynas â’r hawliau hyn yn cael eu nodi, a’u gwneud yn atebol ac yn ymatebol.

Deiliaid dyletswydd a deiliaid hawliau

Sut mae hawliau’n cael eu gwireddu?

Deiliaid dyletswydd: Y Wladwriaeth neu’r llywodraeth yw’r prif ddeiliad dyletswydd sy’n gyfrifol ac yn atebol am wireddu hawliau deiliad hawliau. Mae’r wladwriaeth yn gweithio ar nifer o wahanol lefelau mewn cymdeithas er mwyn cynnal hawliau deiliaid hawliau ac mae gan bobl eraill hefyd gyfrifoldebau moesol a chyfreithiol clir tuag at blant (e.e. athrawon, gweithwyr cymdeithasol a’r rhieni eu hunain).

Ffurf hawl

  • Deiliad Hawl (Mae bod yn Ddeiliad Hawl yn golygu bod â hawl i rywbeth - e.e. deiliad hawl = plentyn )
  • Gwrthrych (Gwrthrych yr Hawl yw’r hyn y mae gennych hawl iddo - e.e. gwrthrych = addysg)
  • Deiliad Dyletswydd (Y cyrff neu’r sefydliadau sydd â chyfrifoldeb i roi gwrthrych yr Hawl i chi – Mae’n ddyletswydd ar ddeiliad dyletswydd i roi i chi yr hyn y mae gennych hawl iddo - e.e. deiliad dyletswydd = awdurdod addysg lleol)

The form of a right

Y berthynas rhwng deiliad dyletswydd a deiliad hawliau: Elfen ganolog i’r syniad o hawliau dynol yw’r berthynas rhwng deiliad hawliau a deiliad dyletswydd. Mae Gwladwriaethau (a ‘deiliaid dyletswydd’ eraill) yn gyfrifol am sicrhau bod hawliau pob person yn cael eu diogelu a’u gwireddu’n gyfartal. Nid yw hyn yn golygu bod y Wladwriaeth yn gyfrifol am ddarparu popeth. Mae’n golygu, fodd bynnag, bod gan y Wladwriaeth ddyletswydd i greu’r amodau sy’n galluogi deiliaid dyletswydd eraill, megis rhieni, y sector preifat, sefydliadau lleol, rhoddwyr a sefydliadau rhyngwladol, i gyflawni eu cyfrifoldebau.

Mae cyfranogi’n hawl ddynol sylfaenol. Mae gan bob plentyn neu oedolyn fel deiliad hawliau hawl i fynnu ei hawliau gan ddeiliad dyletswydd. Mae’r hawliau sifil i wybodaeth, mynegiant ac ymgysylltu yn offerynnau sy’n galluogi pobl i fynnu eu hawliau.

Felly mae cael hawliau dynol yn golygu’r canlynol:

  • Mae deiliaid dyletswydd yn ‘atebol’ i chi, y deiliad hawliau.
  • Er mwyn cael eich hawl rhaid i chi wybod bod gennych hawl iddi, ‘grymuso’.
  • Mae gwybod bod gennych hawl yn golygu y gallwch ‘gyfranogi’ drwy ei hawlio.

Mathau o hawliau dynol

Mae ystod yr hawliau dynol yn adlewyrchu’n hanghenion sylfaenol mewn gwahanol agweddau ar ein bywydau. Yn fras iawn, mae dau fath o hawl:

  • Hawliau sifil a gwleidyddol – yr hawl i ryddid, ac i ryddid mynegiant, yr hawl i dreial teg, i bleidlais, preifatrwydd, arfer crefydd
  • Hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol – iechyd ac addysg, tai, bwyd â dwr, safon byw

Gwerthoedd hawliau dynol

Ategir hawliau dynol gan werthoedd allweddol fel cydraddoldeb ac urddas yn ogystal ag Egwyddorion Hawliau Dynol

Mynegir yr hawliau hyn drwy’r datganiadau hawliau dynol, Confensiynau a deddfau, sef y man cychwyn ar gyfer gwneud y gwerthoedd hyn yn real ym mywydau pobl.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk