CCUHP

Ar ôl trigain mlynedd o eiriolaeth a degawd o ymgynghori â rhanddeiliaid amrywiol, mabwysiadwyd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) gan Gynulliad Cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig yn 1989. Llofnododd y Deyrnas Unedig y Confensiwn yn Ebrill 1990, cadarnhaodd ef yn Rhagfyr 1991 a daeth i rym yn y Deyrnas Unedig ar 15 Ionawr 1992.

Cynsail sylfaenol y Confensiwn yw bod plant (pob bod dynol dan 18 oed) yn cael eu geni â rhyddid sylfaenol a hawliau cynhenid pob bod dynol ond ag anghenion ychwanegol penodol gan eu bod yn agored i niwed. Siaredir am yr CCUHP weithiau fel yr offeryn mwyaf cyflawn o’r offerynnau hawliau dynol rhyngwladol, gan ei fod yn cynnwys hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, yn ogystal ag ymgorffori agweddau ar gyfraith ddyngarol.

Mae’r CCUHP yn gwneud plant yn ddeiliaid dros 40 o hawliau sylfaenol gan barchu traddodiadau a diwylliannau gofal plant unigol. Mae wedi’i ysgrifennu mewn ffordd sy’n golygu bod modd ei weithredu mewn nifer o wahanol wledydd â chyfundrefnau cyfreithiol gwahanol. Mae ei iaith yn gyffredinol a gellir ei gymhwyso’n eang.

Mae’r CCUHP wedi’i gadarnhau’n gyflymach a chan fwy o lywodraethau nag unrhyw offeryn hawliau dynol arall. Unol Daleithiau America a Somalia yw’r unig ddwy wlad sy’n dal heb gadarnhau’r Confensiwn. Drwy gadarnhau’r CCUHP, mae gwledydd yn ‘derbyn rhwymedigaeth i barchu, diogelu, hyrwyddo a gwireddu’r hawliau a restrir’ – gan gynnwys drwy fabwysiadu neu newid cyfreithiau a pholisïau sy’n gweithredu darpariaethau’r Confensiwn.

Mae llawer o lywodraethau wedi pasio deddfwriaeth, creu mecanweithiau a chyflwyno ystod o fesurau creadigol er mwyn sicrhau bod hawliau’r rhai hynny sydd dan 18 oed yn cael eu diogelu a’u gwireddu.

Gallu esblygol

Mae’r isafswm oedran y bernir bod plant yn abl i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain – rhai ohonynt yn benderfyniadau a allai newid eu bywydau – yn amrywio’n fawr, a gallant fod yn ddryslyd iawn. Mae’r oed y gall plant leisio barn ynglyn â thriniaeth feddygol, er enghraifft, neu briodi neu bleidleisio, neu ddewis neu wrthod crefydd neu ffydd, yn amrywio’n fawr o’r naill ddiwylliant i’r llall a hyd yn oed o fewn diwylliannau. Ambell waith mae’r isafswm oedran cyfreithiol yn adlewyrchu’r hyn y mae’r plant eu hunain yn teimlo sydd o fewn eu gallu, ond nid yw hynny’n wir bob amser.

Mae’r cyfyngiadau oedran hyn yn seiliedig ar ddwy brif dybiaeth sydd wedi’i gwneud gan oedolion: yn gyntaf, nad oes gan blant y gallu i fod yn gyfrifol am lawer o benderfyniadau ynglyn â’u bywydau ac, o ganlyniad, bod yn rhaid eu diogelu rhag canlyniadau penderfyniadau gwael; ac yn ail, bod cyfyngiadau oedran yn ffordd arwynebol ond syml o ddiogelu plant rhag hynny – hyd yn oed os yw rhai plant yn gymwys i wneud penderfyniadau pan maent yn iau, ac eraill heb fod yn gymwys nes y byddant yn hyn.

Ond ai cyfyngiadau oedran anhyblyg yw’r ffordd orau o bennu cymhwysedd plant? Mae dulliau sy’n seiliedig ar oedran yn dibynnu llawer iawn ar farn oedolion ynglyn â chymhwysedd plant. Mewn rhai cymdeithasau, mae plant eisoes yn derbyn cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau a fyddai’n eithriadol mewn mannau eraill; mae cymdeithasau eraill yn diogelu plant i’r graddau lle mae’r cyfle i wneud penderfyniadau annibynnol yn brin iawn.

Felly beth yw’r dewisiadau eraill? Mae’r cysyniad o “allu esblygol”, y cyfeirir ato yn Erthygl 5 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, yn rhoi sylw i’r broblem hon drwy gyflwyno’r syniad y dylai plant allu defnyddio’u hawliau pan fyddant yn dod i allu gwneud hynny, yn hytrach na phan fyddant yn cyrraedd oedran penodol. Mae’n gofyn i rieni neu warcheidwaid cyfreithiol roi arweiniad priodol i blant a pharchu’r graddau y gallant ddefnyddio’u hawliau drostynt eu hunain. Mae’r pwyslais yn cael ei symud oddi wrth awdurdod syml i rieni i gynnwys cyfrifoldeb rhieni i helpu plant i wireddu eu hawliau a darparu cyfeiriad ac arweiniad priodol wrth ddefnyddio’r hawliau hynny. Nid yw hyn yn tanseilio hawliau rhieni. Mewn gwirionedd, mae egwyddorion yr CCUHP yn cydnabod y teulu fel ‘yr amgylchedd naturiol ar gyfer twf a lles ei aelodau’.

Strwythur yr CCUHP

Mae’r CCUHP yn cynnwys 54 adran neu ‘Erthygl’. Mae’r Erthyglau’n darparu fframwaith cyflawn o safonau, egwyddorion and chanllawiau gweithredu wedi’u teilwrio ar gyfer anghenion penodol plentyndod. Gyda’i gilydd mae’r erthyglau hyn yn darparu, cymaint ag sy’n bosib, ar gyfer goroesiad a datblygiad plant.

Mae Rhan 1 - Erthyglau 1-41 - yn cynnwys Darpariaethau Sylfaenol y Confensiwn

Mae Rhan 2 - Erthyglau 42-45 – yn ymwneud â Gweithredu a Monitro’r Confensiwn

Mae Rhan3 - yn cynnwys y Cymalau Terfynol.

Felly pam y mae’r CCUHP mor bwysig?

  • Mae’n rhestru holl hawliau plant mewn un ddogfen sy’n ymdrin â’r ystod lawn o hawliau dynol.
  • Mae’n ein helpu i ddeall bod angen i blant gael mynediad at eu holl hawliau os ydynt am oroesi a datblygu’n llawn
  • Mae’n gwneud i oedolion weld plant fel unigolion sydd â hawliau
  • Mae’n berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc ym mhobman
  • Mae 192 o wledydd wedi’i gadarnhau – mae cefnogaeth fyd-eang bron i wireddu hawliau plant ac mae’r Confensiwn hwn yn cael ei dderbyn yn fwy nag unrhyw Gonfensiwn arall
  • Mae’n rhoi fframwaith sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ar gyfer hawliau plant y gallwn ei ddefnyddio i ymgyrchu dros hawliau plant yng Nghymru
  • Mae pobl sy’n gwybod eu hawliau’n fwy abl i’w hawlio. Felly, mae hybu’r fframwaith hwn sy’n cael ei dderbyn yn rhyngwladol, a sicrhau bod ei ddarpariaethau’n hysbys i lawer, yn gamau hanfodol er mwyn sicrhau bod hawliau plant yn cael eu parchu
  • Mae’r broses adrodd – lle mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn mesur pa mor dda mewn gwirionedd y mae llywodraethau’n gweithredu’r Confensiwn yn helpu i roi pwysau ar lywodraethau i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu parchu. 

Dolenni cyswllt defnyddiol

 

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk