Monitro hawliau plant ac adroddiadau i’r Cenhedloedd Unedig

Mae’n ofynnol i bob gwladwriaeth sydd wedi cadarnhau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn adrodd i’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn ynglyn â sut y mae hawliau plant yn cael eu gweithredu yn ei gwlad.

Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yw’r corff o 18 arbenigwr annibynnol, wedi’i leoli yng Ngenefa, a sefydlwyd gan y Confensiwn er mwyn monitro sut y mae’r Gwladwriaethau’n gweithredu’r CCUHP. Mae hefyd yn monitro gweithrediad y ddau brotocol dewisol i’r Confensiwn.

Ddwy flynedd ar ôl cadarnhau’r Confensiwn rhaid i Lywodraethau gyflwyno adroddiad cychwynnol yn amlinellu’r camau y maent wedi’u cymryd er mwyn gweithredu’r Confensiwn. Bob 5 mlynedd ar ôl hynny rhaid i bob gwlad gyflwyno adroddiad cyfnodol i’r Pwyllgor.

Adroddiadau’r Deyrnas Unedig i’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn
Y Deyrnas Unedig yn llofnodi’r CCUHP 19 Ebrill 1990
Cadarnhau’r CCUHP 16 Rhagfyr 1991
Cyflwyno adroddiad cychwynnol y wladwriaeth 15 Mawrth 1994
Sylwadau terfynol i’r adroddiad cyntaf 24 Ionawr 1995
Cyflwyno 2il adroddiad cyfnodol 14 Medi 1999
Sylwadau terfynol i’r 2il adroddiad Medi 2002
Cyflwyno 3ydd a 4ydd adroddiad cyfnodol 15 Gorffennaf 2007
Y Pwyllgor yn cyhoeddi Sylwadau Terfynol i’r 3ydd a’r 4ydd adroddiad 3 Hydref 2008

Y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yw’r unig gytuniad hawliau dynol rhyngwladol sy’n nodi’n benodol bod gan gyrff anllywodraethol ran i’w chwarae yn y gwaith o fonitro gweithrediad y Confensiwn (dan Erthygl 45a o’r CCUHP).

Gall cyrff anllywodraethol gyflwyno’u hadroddiadau eu hunain i’r Pwyllgor. Gelwir y rhain yn ‘adroddiadau amgen’. Yn gyffredinol, mae cyrff anllywodraethol yn gweithio mewn cydweithrediad â’i gilydd, ac mae ganddynt ran allweddol i’w chwarae wrth helpu i sicrhau bod safbwyntiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed yn ôl eu hawl eu hunain ac fel rhan o’r adroddiad i’r llywodraeth.

Mae’r broses o baratoi adroddiad y Wladwriaeth a’r adroddiad amgen yn gyfle arbennig o dda i gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r camau amrywiol sydd wedi’u cymryd er mwyn cysoni cyfraith a pholisi cenedlaethol â’r Confensiwn. Ar ôl derbyn adroddiad y Wladwriaeth a’r adroddiad amgen bydd y Pwyllgor yn cynnal gwrandawiadau llafar gyda’r cyrff anllywodraethol ynghyd â sefydliadau monitro annibynnol perthnasol a’r plant a’r bobl ifanc eu hunain.

Ar sail yr holl dystiolaeth a gyflwynir, bydd y Pwyllgor yn cael cyfle wedyn i groesholi’r llywodraeth ynglyn â’r cynnydd sy’n cael ei wneud wrth wireddu hawliau plant. Bydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig wedyn yn cyhoeddi argymhellion, a elwir yn Sylwadau Terfynol, gan nodi sut y gall y Wladwriaeth geisio sicrhau ei bod yn cydymffurfio â’r CCUHP.

Nid oes modd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig roi cosb unigol mewn llys ond mae clywed nad yw wedi gwneud cynnydd â’r gwaith o geisio cydymffurfio â’r CCUHP yn gallu codi cywilydd rhyngwladol ar Wladwriaeth. Mae’r broses o sicrhau cydymffurfiad â’r CCUHP yn cael ei hystyried yn un gynyddrannol, ac nid yw’r Pwyllgor yn disgwyl i Wladwriaethau fod wedi gweithredu pob rhan o’r Confensiwn ar unwaith. Mae’r ddeialog barhaus rhwng y Wladwriaeth a’r Pwyllgor sy’n cael ei chyfundrefnu gan y broses adrodd ar ffurf beirniadaeth adeiladol yn cael ei chefnogi gan gyngor ynglyn â gweithredu. Mae hyn yn annog llywodraethau i ymdrechu i geisio sicrhau newid cadarnhaol i blant a phobl ifanc rhwng sesiynau adrodd.

Canllawiau adrodd

Mae’r Pwyllgor yn nodi y dylai adroddiadau roi gwybodaeth bendant a chryno ynglyn â chynnydd sydd wedi’i wneud a pheidio ag ailadrodd gwybodaeth. Dylent fod yn hunanfeirniadol a dylent nodi diffygion. Dylent hefyd gynnig camau i’w cymryd er mwyn gwella’r record gweithredu.

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn gofyn i’r Wladwriaeth sy’n rhan o’r Confensiwn grwpio hawliau’r Confensiwn gyda’i gilydd mewn ffordd sy’n ceisio atgyfnerthu anwahanoldeb yr hawliau yn ogystal ag annog cysondeb yn y ffordd y mae’r Pwyllgor yn monitro gweithrediad.

Mae’r wyth clwstwr yn cael eu grwpio dan y penawdau isod

  • 1 Camau Gweithredu Cyffredinol (erthyglau 4, 42, 44.6)
  • II Diffiniad o blentyn (erthygl 1)
  • III Egwyddorion Cyffredinol (erthyglau 2, 3, 6, 12)
  • 1V Hawliau Sifil a Rhyddid (erthyglau 7, 8, 13, 14, 15, 16, 17, 19, 37(a) )
  • V Teulu a’r amgylchedd a gofal amgen (erthyglau 5, 9, 10, 11, 18, 20, 21, 25, 27.4)
  • V1 Iechyd a lles sylfaenol (erthyglau 18, 23, 24, 26, 27)
  • V11 Addysg, hamdden a gweithgareddau diwylliannol (erthyglau 28, 29, 31)
  • V111 Mesurau diogelu arbennig (erthyglau 22, 30, 32, 33, 34, 35, 37, 38, 39, 40)
    a) Plant sydd mewn argyfwng
    b) Plant sy’n ymwneud â’r gyfundrefn gweinyddu cyfiawnder plant
    c) Plant sy’n cael eu hecsbloetio
    d) Plant sy’n perthyn i grwp lleiafrifol neu grwp brodorol

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk