Cyfranogi

Cliciwch ar y dolenni cyswllt isod i gael mwy o wybodaeth:

  • Beth yw cyfranogi?
  • Cerrig milltir yng Nghymru
  • Manteision cyfranogi

Daw’r holl wybodaeth sydd yn yr adran hon o’r Canllawiau Tanio!, cyfres o ganllawiau ymarfer da wedi’u cynllunio gan yr Uned Gyfranogi, ac sy’n seiliedig ar brofiadau gweithwyr cyfranogi yng Nghymru. Mae 9 canllaw ymarfer da ar gael ar hyn o bryd, ond gobeithir cyhoeddi mwy yn y dyfodol. Mae’r pynciau’n amrywio o gyflwyniad i gyfranogiad i ganolbwyntio ar fathau penodol o gyfranogi a chyfranogi mewn amgylchedd penodol. Mae mwy o wybodaeth ar gael, a gallwch lwytho’r canllawiau isod i lawr neu ymweld â gwefan Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru

Safonau Cenedlaethol Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc i Gymru

 

Mae’r Safonau Cyfranogaeth wedi’u seilio ar egwyddorion craidd cyfranogaeth ac wedi derbyn sêl bendith pobl ifanc. Maen nhw ar gael i’w lawrlwytho isod neu ar wefan newydd y Safonau Cyfranogaeth: www.participationworkerswales.org.uk/standards

Cynlluniwyd gwefan y Safonau yn benodol er mwyn helpu ymarferwyr, gwneuthurwyr polisi a rheolwyr i fesur effaith cyfranogiad plant a phobl ifanc gan ddefnyddio Safonau Cenedlaethol Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc i Gymru a’r Fframwaith Asesu Effaith.

Mae’r Safonau Cenedlaethol Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc yn helpu sefydliadau i fesur a gwella ansawdd y broses o gyfranogaeth plant a phobl ifanc. Bwriad y safle yw eich cefnogi chi drwy’r camau y mae angen eu cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl llenwi ffurflen hunanasesiad sy’n eich helpu i ganfod pa mor dda yw eich arfer cyfranogi presennol yn erbyn y Safonau Cenedlaethol Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc i Gymru.

Mae cyfres o bapurau briffio yn benodol i wahanol sectorau ar ddyletswyddau i hyrwyddo cyfranogi hefyd ar gael ar dudalennau’r Consortiwm Cyfranogi yma.

Y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru)

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod darpariaeth statudol i symud ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn nhermau tlodi plant yn ei flaen, ac i symud ei strategaeth ar blant bregus yn ei blaen drwy greu deddfwriaeth er mwyn darparu mwy o gefnogaeth i deuluoedd ble y gall plant wynebu risg, a chryfhau gorfodaeth reoliadol mewn sefyllfaoedd i blant. Gan ganolbwyntio ar chwarae a chyfranogi, mae Adran 4 y ‘Mesur’ yn ceisio cryfhau’r elfennau hyn o Gynlluniau Plant a Phobl Ifanc gan ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau sicrhau cyfleoedd chwarae ‘digonol’ i blant, ar ôl cwblhau ‘asesiad digonedd chwarae’. Hefyd bydd yn rhaid i awdurdodau sicrhau cyfranogiad plant a phobl ifanc ym mhenderfyniadau’r awdurdod sy’n effeithio arnyn nhw, ac sy’n debygol o’u sicrhau drwy ddulliau presennol fel cynghorau ieuenctid, blaenoriaethau Nod Craidd 5 o fewn y cynlluniau Plant a Phobl Ifanc a dulliau ymgynghori presennol a sefydlwyd fel rhan o’r agenda Rhianta Corfforaethol o fewn awdurdodau.

Mae’r ddyletswydd hon hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r CCUHP, yn arbennig Erthygl 12, sef bod plant yn cael yr hawl i fynegi barn yn rhydd ar yr holl faterion sy’n effeithio arnyn nhw, ac yn ei gwneud hi’n ofynnol i Awdurdodau Lleol i gyhoeddi a chadw gwybodaeth gyfoes am drefniadau cyfranogi.

Adnoddau

  • Siart Tanio! (44k)
  • Tanio 1: Cyflwyniad i Gyfranogiad (215k)
  • Tanio 2: Dadlau’r Achos dros Gyfranogiad (196k)
  • Tanio 3: Strategaethau Cyfranogi (407k)
  • Tanio 4: Dogfennau Addas i Blant a Phobl Ifanc (266k)
  • Tanio 5: Opsiynau heblaw Dogfennau (518k)
  • Tanio 6: Gweithio â rhai dan 11 oed (307k)
  • Tanio 7: Sicrhau Cynhwysiant (246k)
  • Tanio 8: Monitro a Gwerthuso (452k)
  • Tanio 9: Adnoddau a Chefnogaeth (206k)
  • Tanio 13: Annog Cyfranogiad Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) (311k)
  • Safonau Cenedlaethol Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc (127k)

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk