Protocolau dewisol

Mae cytuniadau hawliau dynol yn cael eu dilyn yn aml gan ‘Brotocolau Dewisol’. Mecanweithiau cyfreithiol ychwanegol yw’r rhain sy’n ategu ac yn ychwanegu at y cytuniad ar ôl iddo gael ei fabwysiadu. Gellir eu defnyddio er mwyn rhoi mwy o sylw i rywbeth yn y cytuniad gwreiddiol neu er mwyn rhoi sylw i bryder newydd neu bryder sy’n dod i’r amlwg. Maent yn rhoi mwy o fanylion ac maent yn ymestyn y rhwymedigaethau y tu hwnt i’r rhai hynny a oedd yn berthnasol dan y cytuniad gwreiddiol. Rhaid i’r Protocolau Dewisol hefyd fod yn seiliedig ar egwyddorion dim gwahaniaethu, pennaf les, cyfranogiad, goroesiad a datblygiad plant.

 

Mae protocol yn ‘ddewisol’ gan nad yw’n rhwymo’n awtomatig y Gwladwriaethau sydd eisoes wedi cadarnhau’r cytuniad gwreiddiol. Mae’r rhwymedigaethau sydd yn y protocol yn ychwanegol a gallent fod yn anos i’w cyflawni na’r rhai hynny sydd yn y Confensiwn gwreiddiol. O ganlyniad, rhaid i Wladwriaethau ddewis yn annibynnol a ydynt am gael eu rhwymo gan brotocol ai peidio. Os yw Gwladwriaeth yn cytuno i gael ei rhwymo gan y Protocolau Dewisol, yna daw’r rhwymedigaethau ynddynt yn gyfreithiol-rwymol i’r Wladwriaeth.
 
 Mae gan brotocolau dewisol eu mecanwaith cadarnhau eu hunain sy’n annibynnol ar y Confensiwn. Yn gyffredinol, dim ond Gwladwriaethau sydd eisoes wedi cytuno i gael eu rhwymo gan gytuniad gwreiddiol all gadarnhau ei brotocolau dewisol. Er hyn, mae’r Protocolau Dewisol i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn caniatáu i Wladwriaethau nad ydynt yn rhan o’r Confensiwn eu cadarnhau neu gytuno â hwy. Er enghraifft, mae’r Unol Daleithiau, er nad ydynt wedi cadarnhau’r Confensiwn, wedi cadarnhau’r ddau Brotocol Dewisol. 

Yn 2002, mewn ymateb i gynnydd mewn ecsbloetio plant ar hyd a lled y byd, mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ddau Brotocol Dewisol fel ychwanegiadau i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn.

Mae’r Protocolau Dewisol hyn yn rhoi mwy o amddiffyniad i blant rhag bod yn rhan o wrthdaro arfog a rhag cael eu hecsbloetio’n rhywiol.

Y Protocol Dewisol ynghylch Gwerthu plant, puteindra ymhlith plant a phornograffi plant 18 Ionawr 2002

Mae’r protocol hwn yn tynnu sylw arbennig at droseddoli’r achosion difrifol hyn o dreisio hawliau plant ac yn pwysleisio pwysigrwydd meithrin mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a chydweithredu rhyngwladol mewn ymdrechion i fynd i’r afael â hwy.

Y Protocol Dewisol ar gynnwys plant mewn gwrthdaro arfog 25 Mai 2002

Mae’r protocol hwn yn pennu 18 fel yr isafswm oedran ar gyfer recriwtio gorfodol i luoedd arfog y Wladwriaeth ac yn gofyn i Wladwriaethau wneud popeth posib i atal unigolion dan 18 oed rhag chwarae rhan uniongyrchol mewn rhyfel. 

Y Deyrnas Unedig a'r Protocolau Dewisol

Ym Mehefin 2003, cadarnhaodd y Deyrnas Unedig y Protocol Dewisol ar gynnwys plant mewn gwrthdaro arfog. Mae hyn yn golygu bod y rhwymedigaethau ychwanegol yn y Protocol Dewisol hwnnw yn rhwymol ar y Deyrnas Unedig o'r dyddiad hwnnw.

Yn Chwefror 2009 cadarnhaodd llywodraeth y Deyrnas Unedig y Protocol Dewisol ar werthu plant, puteindra ymhlith plant a phornograffi plant. 

Dolenni cyswllt defnyddiol

 

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk