Peidio â gwahaniaethu

Mae’r dudalen hon yn egluro sut mae sefydliadau’n gwahaniaethu yn erbyn plant ac yn cynnig syniadau ynglyn â sut i archwilio a nodi’r materion hyn yn systematig.

Mae plant a phobl ifanc yn canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd lle gwahaniaethir yn eu herbyn ar sail oedran yn rheolaidd. Mae hyn yn amlwg iawn mewn deddfau, polisïau ac agweddau. Cyfeirir ato weithiau fel rhagfarn yn erbyn plant (‘childism’) ond mae’r math hwn o wahaniaethu yn aml yn cael ei anghofio neu’n cael ei ystyried yn gyfreithlon. Er hyn, mae rhagfarn yn erbyn plant yn cynnwys yr un math o wahaniaethu i raddau â’r gwahaniaethu a brofwyd gan ferched a phobl dduon. Er enghraifft, mae plant yn cael eu gwahardd yn systematig neu dan gyrffyw rhag bod mewn mannau cyhoeddus penodol. Enghraifft arall yw’r gred bod taro plant (o fewn rheswm) yn dderbyniol.

Er gwaethaf ein dealltwriaeth o fathau eraill o wahaniaethu, mae deddfau penodol yn dal i gefnogi’r un mathau o wahaniaethu yn erbyn plant a phobl ifanc.

Mae rhai plant a phobl ifanc yn wynebu rhagor o wahaniaethu gan eu bod hefyd yn profi hiliaeth, rhywiaeth neu homoffobia neu oherwydd eu profiad o fod yn anabl neu’n byw mewn gofal.

Gall deall sut mae gwahaniaethu yn erbyn plant yn gweithio ein helpu i nodi sut y mae angen i bolisïau, arferion ac agweddau newid er mwyn dileu rhagfarn yn erbyn plant a gweithredu eu hawliau’n fwy effeithiol.

Rhai enghreifftiau o wahaniaethu sy’n seiliedig ar oedran

Cyfreithiau

  • Mae plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried fel pe baent droseddwyr os ydynt mewn mannau cyhoeddus penodol ar yr adeg anghywir (e.e. y tu allan i siop ar ôl 8pm).
  • Gall plant gael eu cosbi’n gorfforol.
  • Gwahaniaethir yn erbyn pobl ifanc o ran isafswm cyflog a budd-daliadau nawdd cymdeithasol.

Polisïau

  • Mae plant yn cael eu gwahardd o rai mannau, megis gwestai, safleoedd gwersylla, siopau.
  • Mae plant a phobl ifanc yn cael eu hanwybyddu mewn ambell ddarpariaeth gwasanaeth iechyd.

Agweddau

  • Mae’r portread o blant a phobl ifanc a geir yn y cyfryngau’n gyson yn stereoteipio pobl ifanc fel llanciau ifanc sy’n tramgwyddo.
  • Cymerir yn ganiataol bod plant yn analluog. Mae pobl yn gwrthod gwrando arnynt neu’n gwrthod eu credu.

Rhagor o wahaniaethu sy’n seiliedig ar brofiadau eraill

Gall plant sy’n cael profiadau eraill o gael eu gwthio i’r cyrion brofi haenau lluosog o wahaniaethu yn ychwanegol at ragfarn yn erbyn plant. Mae’r rhain yn bethau fel hiliaeth a rhywiaeth, sy’n effeithio ar blant yn uniongyrchol a thrwy eu haelodaeth o grwpiau sydd ar y cyrion. Er enghraifft, gwahaniaethir yn erbyn bechgyn Affricanaidd-Caribïaidd drwy agweddau megis y disgwyliad na fyddant yn gwneud yn dda yn yr ysgol, a’r un pryd, gallai profiad eu rhieni o wahaniaethu yn eu herbyn yn y gweithle olygu bod incwm eu cartrefi’n llai a bod ganddynt lai o fynediad at adnoddau addysgol.

Mae’r profiadau a ganlyn yn gwneud plant yn debygol iawn o wynebu gwahaniaethu:

  • Tlodi
  • Hiliaeth
  • Rhywiaeth
  • Ceisio lloches
  • Bod yn ofalwr ifanc
  • Bod yn ddigartref
  • Bod yn anabl
  • Bod â salwch meddwl
  • Bod yn Sipsi neu Deithiwr
  • Bod yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol
  • Bod yng ngofal yr awdurdod lleol

Mae rhai o’r haenau lluosog hyn o wahaniaethu sy’n effeithio ar blant wedi’u crynhoi ar dudalennau 15, 16 ac 17 o Aros, edrych, gwrando: sut mae gwireddu hawliau plant yng Nghymru

Deall sut y mae gwahaniaethu yn erbyn plant yn gweithio

Mae gwahaniaethu yn erbyn plant a phobl ifanc yn digwydd drwy ddeddfau, polisïau ac agweddau ac yn gweithio drwy nifer o fecanweithiau. Er mwyn gwneud iawn am y gwahaniaethu y mae plant yn ei brofi rhaid i ni archwilio pob cyfraith, polisi ac agwedd am arwydd o’r mecanweithiau hyn. Bydd hyn yn ein galluogi i nodi beth mae angen i ni ei newid a sut.

Yr allwedd er mwyn cyflawni’r newidiadau hyn mewn agweddau a newidiadau canlynol mewn cyfraith, polisi ac ymarfer, yw creu cyfle ar gyfer deialog rhwng oedolion a phlant a rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol bwyso a mesur eu hymarfer.

Bydd pwyso a mesur y materion hyn fel unigolyn neu o fewn eich sefydliad yn eich helpu i wneud y gwahaniaethiadau a allai eich helpu i newid polisi ac ymarfer. Gofynnwch i chi eich hun a yw’ch sefydliad yn gweithredu unrhyw un o’r mecanweithiau isod:

  • Gwahaniaethu Agored a Dallineb Oedran: gwahaniaethu anghyfiawn ar sail oedran mewn deddfau, polisïau ac agweddau, neu ddiffyg gwahaniaethu o’r fath pan fyddai darpariaeth ar gyfer oedran penodol yn briodol.
  • Gwthio i’r cyrion: nid yw plant yn cael eu hystyried fel craidd gwasanaeth sy’n cael ei ddefnyddio ganddynt.
  • Stereoteipio, Gwahaniaethu wedi’i Fewnoli, Beio Dioddefwyr a’r Model Diffyg: plant yn cael eu hystyried yn gyfrifol am gael eu trin yn wael neu’n cael eu demoneiddio ar gam am ymddygiad gwael, ond ddim yn cael eu hystyried yn ddigon cyfrifol i rywun wrando arnynt, i’w credu neu i roi coel arnynt.
  • Ecsbloetio: disgwylir i blant gyflawni rhwymedigaethau afresymol, a hynny’n aml heb unrhyw reolaeth dros eu natur.

Dolenni cyswllt ac adnoddau defnyddiol:

  • I weld pecyn cymorth Rhwydwaith Gwybodaeth Hawliau Plant ynghylch peidio â gwahaniaethu yn erbyn plant ewch i http://www.crin.org/discrimination/
  • Webb, E 'Gwahaniaethu' yn Aros, Edrych, Gwrando: sut mae gwireddu hawliau plant yng Nghymru Achub y Plant, 2007.
  • Webb, E., Maddocks, A. a Bongilli, J. (2002) Effectively protecting Black and minority ethnic children from harm: overcoming barriers to the child protection process. Child Abuse Review 2002: 11: 394-410.
  • Webb, Elspeth (2006) The Impact of Discrimination on Children. Ethics, Law and Society Cyfrol II. 2006. Gol. Gunning, J. a Holm, S. Ashgate Publishing UK.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk