Cynllun gweithredu cenedlaethol ar hawliau plant

Yn dilyn adroddiad diwethaf Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig, ac ar ôl derbyn Sylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn gweithio mewn cysylltiad agos â Grwp y Cyrff Anllywodraethol sy’n Monitro’r CCUHP, Comisiynydd Plant a phartneriaid cenedlaethol a lleol eraill er mwyn datblygu dull cydgysylltiedig o symud ymlaen â’r gwaith o weithredu’r Confensiwn dros y 5 mlynedd nesaf drwy Gynllun Gweithredu cytunedig ar yr CCUHP ar gyfer Cymru, Gwneud Pethau’n Iawn.

Bydd y cynllun gweithredu hwn yn rhan o gynllun gweithredu ehangach ar gyfer y Deyrnas Unedig (fel sy’n cael ei argymell ym mharagraff 15 o sylwadau terfynol y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn). Cytunwyd â phartneriaid mai’r Blaenoriaethau cytunedig ar gyfer Cymru fydd asgwrn cefn y cynllun gweithredu. Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun yn realistig, yn gyraeddadwy ac yn berthnasol i flaenoriaethau Cymru

Lansiwyd Datganiad o Fwriad y Deyrnas Unedig a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru ar 20 Tachwedd 2009 i gyd-fynd ag 20fed pen-blwydd yr CCUHP a Diwrnod Rhyngwladol Plant.

Mae grwp gweithredu wedi’i sefydlu er mwyn helpu i weithredu’r camau a nodwyd yn y cynllun.

Darllenwch y cynllun gweithredu er mwyn dysgu mwy am gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer gweithredu’r CCUHP yng Nghymru.

Gallwch weld y cynllun gweithredu drwy glicio yma.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk