Sylwadau Terfynol 2008

Concluding observations 2008

Croesholodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig mewn gwrandawiad er mwyn adolygu eu record ar hawliau plant, ar 23/24 Medi 2008, a chyhoeddodd ei Sylwadau Terfynol ar 3 Hydref 2008.

Mae’r Sylwadau Terfynol i’w gweld yma: yma.

Croesawodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn y cynnydd a oedd wedi’i wneud yn y meysydd isod:

  • Dileu’r cymalau cadw ar gyfer erthygl 37(c), cadw plant yn y ddalfa gydag oedolion, ac ar gyfer erthygl 22, trin plant ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn wahanol i blant sy’n ddinasyddion.
  • Mabwysiadu deddfwriaeth yn ymwneud â hawliau plant, gan gynnwys Deddf Plant 2004 a Deddf Gofal Plant 2006.
  • Sefydlu’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
  • Y ffaith fod cyfeiriad wedi’i wneud at y Confensiwn yn y llysoedd domestig ambell dro.
  • Ymrwymiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wahardd pob cosb gorfforol yn y cartref, er bod telerau datganoli’n golygu nad yw’n bosib i’r Cynulliad ddeddfu.
  • Ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i wireddu hawl plant i chwarae.
  • Ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Llywodraeth ddatganoledig i ddileu tlodi plant erbyn 2020 a’r ffaith y bydd y targed hwn yn cael ei orfodi drwy fesurau deddfwriaethol.

Crynodeb o brif bryderon Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig

  • Ymgorffori’r CCUHP - Diffyg ymgorffori’r CCUHP mewn deddfwriaeth ddomestig a’r ffaith y dylai’r CCUHP gael ei ymgorffori ym Mesur Hawliau Prydain.
  • Dyrannu adnoddau i blant - Dim digon o gynnydd mewn gwariant, gan ddefnyddio cymaint ag y bo modd o’r adnoddau sydd ar gael, er mwyn dileu tlodi plant, ac anghysondeb rhwng dadansoddiadau cyllidebol ac asesiadau o’r effaith ar hawliau plant yn golygu ei bod yn anodd canfod faint o wariant sy’n cael ei ddyrannu i blant.
  • Ymwybyddiaeth o hawliau plant - Dim proses systematig o gynyddu ymwybyddiaeth o’r Confensiwn. Ychydig iawn o wybodaeth sydd gan blant, rhieni a phobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phlant ac nid yw’r Confensiwn yn cael ei ymgorffori’n ddigonol yn y cwricwlwm mewn ysgolion.
  • Gwahaniaethu - Gwahaniaethu o hyd yn erbyn grwpiau o blant - Teithwyr Roma a Gwyddelig, plant gweithwyr mudol, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, pobl ifanc lesbiaidd, deurywiol, hoyw a thrawsrywiol, plant sy’n perthyn i grwpiau lleiafrifol a phlant anabl.
  • Anoddefgarwch tuag at blant - Y sefyllfa gyffredinol lle ceir anoddefgarwch ac agweddau cyhoeddus negyddol tuag at blant a phobl ifanc.
  • Cyfranogiad - Dim llawer o gynnydd er mwyn cynnwys erthygl 12 ym meysydd addysg, cyfraith a pholisi nac i sicrhau bod yr hawliau sydd yn erthygl 12 yn cael eu rhoi i blant sydd ag anabledd. Yn ychwanegol at hyn rhaid i Draig Ffynci gael cefnogaeth briodol.
  • Cyfyngu ar ryddid plant i symud o gwmpas ac i ymgynnull yn heddychlon, drwy orchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol a dyfeisiau mosgito.
  • Cosb gorfforol - Methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatgan yn glir ei bod yn gwahardd cosb gorfforol o unrhyw fath.
  • Plant mewn gofal – Dim digon o fuddsoddi mewn staff a chyfleusterau, plant yn cael eu rhoi mewn gofal gan fod incwm eu rhieni’n isel, cynnydd yn nifer y plant o leiafrifoedd ethnig a’r plant ag anabledd sydd mewn gofal, monitro annigonol, plant yn cael eu symud yn aml, mynediad cyfyngedig i blant at drefniadau cwynion plant.
  • Trais, cam-drin ac esgeulustod – Nifer fawr o achosion yn y cartref a dim sôn eto am strategaeth gynhwysfawr, system gofnodi a dadansoddi achosion o gam-drin plant, na hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant.
  • Iechyd – Mwy o anghydraddoldeb rhwng y tlawd a’r cyfoethog, mynediad cyfyngedig at wasanaethau iechyd meddwl priodol ar gyfer plant a phobl ifanc, cyfraddau beichiogrwydd uchel ymhlith merched ifanc yn eu harddegau o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd llai breintiedig a llawer o ddefnydd o alcohol a chyffuriau.
  • Tlodi Plant – Mae tlodi’n dal yn broblem ddifrifol ac nid yw strategaeth y Llywodraeth wedi’i thargedu’n ddigonol tuag at y grwpiau hynny o blant sy’n byw yn y tlodi mwyaf difrifol.
  • Addysg – Anghydraddoldeb o ran cyflawniad yn yr ysgol, ychydig iawn o ddefnydd a wneir o hawl plant i gyfranogi a chwyno, mae bwlio’n dal yn broblem ddifrifol a chyffredin, mae nifer y gwaharddiadau’n dal yn uchel, yn enwedig ymhlith grwpiau sydd â chyrhaeddiad isel.
  • Cyfiawnder Ieuenctid – Oed cyfrifoldeb troseddol yn isel (10 oed), nifer y plant sy’n cael eu hamddifadu o’u rhyddid ac sydd ar remand yn rhy uchel ac nid oes gan blant sydd yn y ddalfa hawl statudol i addysg.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk