Fframwaith rhyngwladol ar gyfer hawliau dynol
Mae’r dudalen hon yn cynnwys disgrifiad cyffredinol o’r Fframwaith Hawliau Dynol Rhyngwladol.
Mae’r syniadau sydd wrth wraidd hawliau dynol wedi bod yn bresennol mewn cymdeithasau drwy gydol ein hanes.
Daeth y datganiadau hawliau dynol modern i fodolaeth yn yr 20fed ganrif, a hynny’n bennaf mewn ymateb i ddioddefaint yr Ail Ryfel Byd a’r Holocost a’r diffyg parch at hawliau dynol.
Yn 1948 cymeradwyodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y cynnig i fabwysiadu Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.
Mae'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn nodi’r hawliau dynol a’r rhyddid sylfaenol y mae gan bob dyn a dynes ym mhob rhan o’r byd hawl iddynt, heb unrhyw wahaniaethu. Mae’n gwarantu hawliau sifil a gwleidyddol yn ogystal â hawliau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.
Nid yw’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn gyfreithiol rwymol ynddo’i hun ond mae’n gweithredu fel cyfres o safonau ac egwyddorion cyffredin ar gyfer hawliau dynol. Fodd bynnag, gan fod pob gwlad yn y byd wedi’i dderbyn, mae ei gymeriad anghyfrwymol cychwynnol wedi newid gyda threigl amser, a chyfeirir ato’n aml bellach fel datganiad sy’n gyfreithiol rwymol ar sail cyfraith ryngwladol gyffredin.
Er 1948 mae’r Cenhedloedd Unedig wedi mabwysiadu ystod eang o offerynnau hawliau dynol rhyngwladol cyfreithiol rwymol. Defnyddir y cytuniadau hyn fel fframwaith i drafod a chymhwyso hawliau.(O dan gyfraith ryngwladol, defnyddir y termau ‘cytuniad’ neu ‘gonfensiwn’ i ddisgrifio cytundebau sy’n gyfreithiol rwymol.)
Drwy’r offerynnau hawliau dynol hyn, mae’r egwyddorion a’r hawliau a amlinellir ganddynt yn dod yn rhwymedigaethau cyfreithiol i’r Gwladwriaethau hynny sy’n eu cadarnhau. Mae’r fframwaith hawliau dynol rhyngwladol hefyd yn sefydlu dulliau cyfreithiol a dulliau eraill o alw llywodraethau i gyfrif os ydynt yn troseddu yn erbyn hawliau dynol.
Y MESUR HAWLIAU DYNOL RHYNGWLADOL
Yr Offerynnau Hawliau Dynol Rhyngwladol Creiddiol a’u Cyrff Monitro
Mae naw cytuniad hawliau dynol rhyngwladol creiddiol. Mae pob un o’r cytuniadau hyn wedi sefydlu pwyllgor o arbenigwyr i fonitro sut mae’r Gwladwriaethau’n gweithredu darpariaethau’r cytuniad. Ategir rhai o’r cytuniadau gan brotocolau dewisol sy’n ymdrin â phryderon penodol.
Mae pob gwlad yn y byd wedi cadarnhau o leiaf un o’r rhain, ac mae llawer wedi cadarnhau’r rhan fwyaf ohonynt. Mae’r cytuniadau hyn yn arfau pwysig er mwyn gwneud llywodraethau’n atebol am barchu, diogelu a gwireddu hawliau unigolion yn eu gwlad.
Mae’r rhain yn cael eu gorfodi a’u monitro gan y Cenhedloedd Unedig. Rhaid i wledydd sy’n cytuno i gael eu rhwymo gan y rhain gyflwyno adroddiadau rheolaidd (bob 4–5 mlynedd fel arfer) i ddangos sut y maent yn gweithredu’r hawliau sydd yn y cytuniad.
Mae’r adroddiadau’n cael eu harchwilio gan bwyllgor o arbenigwyr, sy’n cyhoeddi ei bryderon a’i argymhellion.
Mae’n bwysig deall y fframwaith hwn er mwyn hyrwyddo, diogelu a gwireddu hawliau dynol plant. Mae hawliau plant wedi’u gwasgaru drwy’r holl offerynnau hawliau dynol a’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ac mae’r hawliau a’r dyletswyddau sydd ynddo’n rhan o’r fframwaith hwn.
Dolenni cyswllt defnyddiol