Fframweithiau arolygu a hawliau plant

Yng Nghymru, mae dwy arolygiaeth sy'n cyflawni yn fras y dyletswyddau arolygu ac adolygu sy’n cael eu cyflawni yn Lloegr gan y ‘Commission for Social Care Inspection’ (CSCI). Yr arolygiaethau hyn yw Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC) ac Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC). Mae’r ddwy’n ganghennau gweithredol ac annibynnol o Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac maent yn darparu cyngor i Lywodraeth y Cynulliad hefyd.

Mae trydedd arolygiaeth, sy’n ymwneud â gofal iechyd mewn sefyllfa debyg. Dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru i gyflawni’r un swyddogaethau fwy neu lai ag y mae’r Comisiwn Archwilio’n dal i’w cyflawni yn Lloegr.

Nid yw darpariaethau Deddf Plant 2004 sy’n ymwneud ag asesu perfformiad yn flynyddol a chyd-adolygiadau ar gyfer ardaloedd yn berthnasol yng Nghymru. Yn lle hynny, dan adran 30 o Ddeddf 2004, mae arolygu ac adolygu gwasanaethau plant yn cael ei brynu yn unol â’r cyfrifoldebau a oedd gan Gynulliad Cymru’n barod dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003. Dan adran 93 o Ddeddf 2003, mae AGCC yn cynnal cyfres o adolygiadau o wasanaethau oedolion ac adolygiadau ar y cyd â Swyddfa Archwilio Cymru. Wrth gyflawni’r swyddogaethau hyn, mae’n ofynnol i AGCC dan adran 97 o Ddeddf 2003 ymwneud yn fwyaf â’r arbennig â’r un materion ag sy’n cael eu nodi ar gyfer CSCI yn adran 76.

Nid yw’r haen ychwanegol o ofynion arolygu ac adolygu sy’n gysylltiedig â phum ‘agwedd lles’ dan Ddeddf Plant 2004 wedi’i chymhwyso i Gymru. Mae AGCC a Swyddfa Archwilio Cymru wedi dyfeisio’u matrics eu hunain ar gyfer mesur perfformiad mewn cyd-adolygiadau, ar sail dau gwestiwn yn unig. Yn gyntaf, pa mor dda yw’r gwasanaethau? Ac yn ail, a yw’r awdurdod mewn sefyllfa dda i allu cynnal a gwella perfformiad? (AGCC, Swyddfa Archwilio Cymru 2005)

O ystyried ymrwymiad datganedig y Cynulliad i’r CCUHP fel casgliad trosfwaol o egwyddorion, siomedig yw gweld nad oes adlewyrchiad clir yn y rhestr hon o ‘bryder penodol’ am ddiogelu a hybu hawliau a lles plant. Am y tro, felly, mae’r fframwaith ar gyfer arolygu ac adolygu gwasanaethau plant yng Nghymru yn ogystal â Lloegr yn tueddu i atal ystyriaeth o gydymffurfiad â’r CCUHP fel mesur o lwyddiant.

- codwyd yr uchod o Williams J (2008) Child Law for Social Work. SAGE Publications.

Ar gael yn fuan, canllawiau ar gyfer ymgorffori’r CCUHP yn y Fframwaith ar gyfer Arolygu Gwasanaethau Plant yng Nghymru.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk