Asesiadau o’r effaith ar hawliau plant

Nid yw asesiadau o’r effaith ar hawliau plant yn cael eu defnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd, yn genedlaethol nac yn lleol.

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn argymell y dylai pob gwlad sy’n cadarnhau’r CCUHP asesu pa effaith y mae pob penderfyniad sy’n ymwneud â phlant yn ei gael ar hawliau plant.

"Wrth weithredu egwyddorion a darpariaethau’r Confensiwn mae angen rhoi blaenoriaeth i faterion sy’n ymwneud â phlant, yn enwedig yng ngoleuni erthygl 3. Argymhellir felly, wrth lunio dewisiadau polisi a chynigion, y dylid cael asesiad cysylltiedig o’u heffaith ar blant fel bod pobl sy’n gwneud penderfyniadau’n deall mwy wrth lunio polisïau am eu heffaith ar hawliau’r plentyn".

Sylwadau Terfynol y Deyrnas Unedig 2008

Para 19: Dylid cynnal asesiadau o’r effaith ar hawliau plant yn rheolaidd er mwyn gwerthuso i ba raddau y mae dyraniadau cyllidebol yn gymesur â gwireddu datblygiadau polisi a gweithredu deddfwriaeth.

Beth yw asesiadau o’r effaith ar hawliau plant?

Gellir disgrifio asesiad o’r effaith ar hawliau plant fel asesiad ymlaen llaw o’r effaith y gall penderfyniad ei gael ar blentyn neu grwp o blant y bydd y penderfyniad yn effeithio arnynt.

Mae asesiad o’r effaith ar hawliau plant yn ymwneud ag archwilio polisïau sy’n bodoli’n barod, a pholisïau arfaethedig, deddfwriaeth neu newidiadau mewn gwasanaethau gweinyddol, gan edrych pa effaith y maent yn ei gael ar blant a sut y maent yn helpu i weithredu’r Confensiwn.

  • Mae asesiadau o’r effaith ar hawliau plant yn ffordd o roi’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ac erthygl 3, sy’n rhoi blaenoriaeth i bennaf les plant, ar waith mewn dull pendant a strwythuredig
  • Rhaid i bob penderfyniad sy’n cael ei wneud, ac sy’n effeithio ar blant fod yn seiliedig ar ”bennaf les y plentyn"
  • Ym mhob mater sy’n effeithio ar y plentyn, rhaid rhoi cyfle i’r plentyn fynegi ei farn a rhaid ystyried y farn honno wrth wneud y penderfyniad
  • Drwy hyn, mae’r Confensiwn yn dod yn fan cychwyn ar gyfer ystyriaeth systematig o faterion o bersbectif plentyn mewn gwaith a phrosesau gwneud penderfyniadau ar gyfer gweithgareddau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc

Pam mae angen asesiadau o’r effaith ar hawliau plant?

  • Mae plant yn cael eu hamddifadu o’u hawliau fel dinasyddion, gan nad oes ganddynt bleidlais a chan nad ydynt yn chwarae rhan arwyddocaol mewn prosesau gwleidyddol
  • Mae materion sy’n ymwneud â phlant wedi’u gwasgaru ar draws adrannau’r llywodraeth a gall hynny arwain at bolisïau di-drefn neu anghyson nad ydynt yn adlewyrchu’r "plentyn cyflawn"
  • Yn aml iawn mae materion sy’n ymwneud â phlant yn debygol o gael eu bachu gan agendâu gwleidyddol eraill ac, o ganlyniad, mae plant mewn llawer o achosion mewn sefyllfa wahanol i weddill y boblogaeth (sefyllfa wannach fel arfer)
  • Mae angen mecanweithiau llywodraethol er mwyn rhoi lle mwy amlwg i faterion sy’n ymwneud â phlant, eu gwneud yn fwy cydlynol a rhoi mwy o arwyddocâd iddynt. Mae prawfesur polisïau plant yn un elfen mewn ymgyrch i wella trefniadau llywodraethu ar gyfer plant a phrif ffrydio hawliau plant. Mae’n creu cyfle heb ei ail i addasu polisïau er mwyn sicrhau bod buddiannau plant yn cael eu diogelu

Pryd i wneud asesiad o’r effaith ar hawliau plant

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wedi sefydlu nifer o bwyntiau lle mae’n argymell yn benodol y dylid gwneud asesiadau o’r effaith ar blant, e.e. wrth fabwysiadu:

  • unrhyw fath o bolisi newydd
  • deddfwriaeth neu reoliadau newydd
  • cyllideb flynyddol, ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol
  • newidiadau sefydliadol neu weinyddol ar bob lefel mewn cymdeithas

Beth ddylai gael ei gynnwys mewn asesiad o’r effaith ar hawliau plant?

  • Disgrifiad o’r mesur arfaethedig (deddfwriaeth/polisi/prosiect)
  • Gan gynnwys sut y mae’r mesur yn effeithio ar blant a phobl ifanc (neu sut y gallai effeithio arnynt)
  • Gan gynnwys sut y mae gweithgareddau/polisïau eraill sydd mewn grym gan y llywodraeth ar hyn o bryd yn effeithio ar y mesur arfaethedig, neu sut y mae’r mesur arfaethedig yn effeithio arnynt hwy
  • Dadansoddiad o’r modd y mae’r mesur yn hybu neu’n amharu ar y gwaith o weithredu egwyddorion arweiniol yr CCUHP ac offerynnau hawliau dynol perthnasol eraill (dadansoddiad fesul cymal)
  • Nodi problemau/bylchau mewn gwybodaeth/arbenigedd/gwrthdaro rhwng buddiannau sy’n gysylltiedig â’r cynnig
  • Barn plant a phobl ifanc am y mesur/cynnig
  • Camau y bwriedir eu cymryd er mwyn gwella neu wneud iawn am unrhyw effeithiau anffafriol
  • Canllawiau ynglyn â sut y dylid monitro’r mesur
  • Gwerthusiad (yn ddiweddarach) o wir effaith y penderfyniad

Pwy ddylai gynnal asesiadau o’r effaith ar hawliau plant?

  • Yn genedlaethol – y gweinidog dros blant, y pwyllgor rhyngweinidogol ar blant, y comisiynydd plant, y pwyllgor dethol seneddol ar blant
  • Yn lleol – swyddogion yn cynrychioli gwahanol adrannau yn yr awdurdod lleol sy’n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol a phlant a phobl ifanc yn y gymuned, y cyngor, pwyllgor craffu plant a phobl ifanc

Am fwy o wybodaeth ynglyn â sut i gynnal asesiadau effeithiol o’r effaith ar hawliau plant darllenwch adroddiad Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban.

Mwy o ddeunydd am asesiadau o’r effaith ar blant

Sylwander (2001) Child impact assessments – Swedish Experience of Child Impact Analyses as a tool for implementing the UN Convention on the Rights of the Child. Gweinyddiaeth Iechyd a Materion Cymdeithasol Sweden a Gweinyddiaeth Materion Tramor Sweden.

Hodgkin, R (1989) Child impact assessments 1997/98: an experiment in child policy proofing UK Parliamentary Bills, UNICEF a Biwro Cenedlaethol y Plant.

Croke, R (2006) Pennod 3, Egwyddorion Sylfaenol: Buddiannau Gorau yn Cywiro’r Cam: Realiti hawliau plant yng Nghymru, Achub y Plant.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk