Asesiad o effaith – hawliau plant

 Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn argymell y dylai pob gwlad sy’n cadarnhau’r CCUHP asesu pa effaith y mae pob penderfyniad sy’n ymwneud â phlant yn ei gael ar hawliau plant.

"Wrth weithredu egwyddorion a darpariaethau’r Confensiwn mae angen rhoi blaenoriaeth i faterion sy’n ymwneud â phlant, yn enwedig yng ngoleuni erthygl 3. Argymhellir felly, wrth lunio dewisiadau polisi a chynigion, y dylid cael asesiad cysylltiedig o’u heffaith ar blant fel bod pobl sy’n gwneud penderfyniadau’n deall mwy wrth lunio polisïau am eu heffaith ar hawliau’r plentyn".

 Beth yw asesiadau o’r effaith ar hawliau plant?

Gellir disgrifio asesiad o’r effaith ar hawliau plant fel asesiad ymlaen llaw o’r effaith y gall penderfyniad ei gael ar blentyn neu grŵp o blant y bydd y penderfyniad yn effeithio arnynt.

Mae asesiad o’r effaith ar hawliau plant yn ymwneud ag archwilio polisïau sy’n bodoli’n barod, a pholisïau arfaethedig, deddfwriaeth neu newidiadau mewn gwasanaethau gweinyddol, gan edrych pa effaith y maent yn ei gael ar blant a sut y maent yn helpu i weithredu’r Confensiwn.

·         Mae asesiadau o’r effaith ar hawliau plant yn ffordd o roi’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ac erthygl 3, sy’n rhoi blaenoriaeth i bennaf les plant, ar waith mewn dull pendant a strwythuredig

·         Rhaid i bob penderfyniad sy’n cael ei wneud, ac sy’n effeithio ar blant fod yn seiliedig ar ”bennaf les y plentyn"

·         Ym mhob mater sy’n effeithio ar y plentyn, rhaid rhoi cyfle i’r plentyn fynegi ei farn a rhaid ystyried y farn honno wrth wneud y penderfyniad

·         Drwy hyn, mae’r Confensiwn yn dod yn fan cychwyn ar gyfer ystyriaeth systematig o faterion o bersbectif plentyn mewn gwaith a phrosesau gwneud penderfyniadau ar gyfer gweithgareddau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc

Pam mae angen asesiadau o’r effaith ar hawliau plant?

·         Mae plant yn cael eu hamddifadu o’u hawliau fel dinasyddion, gan nad oes ganddynt bleidlais a chan nad ydynt yn chwarae rhan arwyddocaol mewn prosesau gwleidyddol

·         Mae materion sy’n ymwneud â phlant wedi’u gwasgaru ar draws adrannau’r llywodraeth a gall hynny arwain at bolisïau di-drefn neu anghyson nad ydynt yn adlewyrchu’r "plentyn cyflawn"

·         Yn aml iawn mae materion sy’n ymwneud â phlant yn debygol o gael eu bachu gan agendâu gwleidyddol eraill ac, o ganlyniad, mae plant mewn llawer o achosion mewn sefyllfa wahanol i weddill y boblogaeth (sefyllfa wannach fel arfer)

·         Mae angen mecanweithiau llywodraethol er mwyn rhoi lle mwy amlwg i faterion sy’n ymwneud â phlant, eu gwneud yn fwy cydlynol a rhoi mwy o arwyddocâd iddynt. Mae prawfesur polisïau plant yn un elfen mewn ymgyrch i wella trefniadau llywodraethu ar gyfer plant a phrif ffrydio hawliau plant. Mae’n creu cyfle heb ei ail i addasu polisïau er mwyn sicrhau bod buddiannau plant yn cael eu diogelu.

Pryd i wneud asesiad o’r effaith ar hawliau plant

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wedi sefydlu nifer o bwyntiau lle mae’n argymell yn benodol y dylid gwneud asesiadau o’r effaith ar blant, e.e. wrth fabwysiadu:

·         unrhyw fath o bolisi newydd

·         deddfwriaeth neu reoliadau newydd

·         cyllideb flynyddol, ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol

·         newidiadau sefydliadol neu weinyddol ar bob lefel mewn cymdeithas

 Beth ddylai gael ei gynnwys mewn asesiad o’r effaith ar hawliau plant?

·         Disgrifiad o’r mesur arfaethedig (deddfwriaeth/polisi/prosiect)

·         Gan gynnwys sut y mae’r mesur yn effeithio ar blant a phobl ifanc (neu sut y gallai effeithio arnynt)

·         Gan gynnwys sut y mae gweithgareddau/polisïau eraill sydd mewn grym gan y llywodraeth ar hyn o bryd yn effeithio ar y mesur arfaethedig, neu sut y mae’r mesur arfaethedig yn effeithio arnynt hwy

·         Dadansoddiad o’r modd y mae’r mesur yn hybu neu’n amharu ar y gwaith o weithredu egwyddorion arweiniol yr CCUHP ac offerynnau hawliau dynol perthnasol eraill (dadansoddiad fesul cymal)

·         Nodi problemau/bylchau mewn gwybodaeth/arbenigedd/gwrthdaro rhwng buddiannau sy’n gysylltiedig â’r cynnig

·         Barn plant a phobl ifanc am y mesur/cynnig

·         Camau y bwriedir eu cymryd er mwyn gwella neu wneud iawn am unrhyw effeithiau anffafriol

·         Canllawiau ynglyn â sut y dylid monitro’r mesur

·         Gwerthusiad (yn ddiweddarach) o wir effaith y penderfyniad

Pwy ddylai gynnal asesiadau o’r effaith ar hawliau plant?

·         Yn genedlaethol – y gweinidog dros blant, y pwyllgor rhyngweinidogol ar blant, y comisiynydd plant, y pwyllgor dethol seneddol ar blant

·         Yn lleol – swyddogion yn cynrychioli gwahanol adrannau yn yr awdurdod lleol sy’n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol a phlant a phobl ifanc yn y gymuned, y cyngor, pwyllgor craffu plant a phobl ifanc

Am fwy o wybodaeth ynglyn â sut i gynnal asesiadau effeithiol o’r effaith ar hawliau plant darllenwch adroddiad Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban.

Edrychwch ar yr adroddiad hwn ar Asesiadau o’r Effaith ar Blant gan Achub y Plant yn rhyngwladol.

 Mwy o ddeunydd am asesiadau o’r effaith ar blant

Sylwander (2001) Child impact assessments – Swedish Experience of Child Impact Analyses as a tool for implementing the UN Convention on the Rights of the Child. Gweinyddiaeth Iechyd a Materion Cymdeithasol Sweden a Gweinyddiaeth Materion Tramor Sweden.

Hodgkin, R (1989) Child impact assessments 1997/98: an experiment in child policy proofing UK Parliamentary Bills, UNICEF a Biwro Cenedlaethol y Plant.

Croke, R (2006) Pennod 3, Egwyddorion Sylfaenol: Buddiannau Gorau yn Cywiro’r Cam: Realiti hawliau plant yng Nghymru, Achub y Plant.

 

 

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk