Egwyddorion hawliau dynol

Mae’r dudalen hon yn disgrifio’r prif egwyddorion sy’n berthnasol i hawliau dynol a sut y mae’r rhain yn berthnasol i hawliau plant a phobl ifanc. Mae’r gymuned ryngwladol wedi sefydlu cyfres o egwyddorion neu nodweddion sy’n berthnasol i hawliau dynol. Drwy lofnodi confensiynau hawliau dynol rhyngwladol mae pob Gwladwriaeth yn derbyn y rhain ac yn cytuno i gydymffurfio â hwy:

Mae hawliau dynol yn ddiymwad

  • Ni ellir eu cymryd oddi wrth bobl.
  • Mewn rhai amgylchiadau gellir atal neu gyfyngu ar eich hawliau dynol (e.e. gellir cymryd eich rhyddid oddi wrthych os ydych yn cyflawni trosedd neu gellir cyfyngu ar eich rhyddid i symud mewn cyfnod o anhrefn sifil).

Mae hawliau dynol yn annibynnol, yn anwahanadwy ac yn gydberthnasol

  • Mae’r holl wahanol hawliau dynol yn bwysig ac yn angenrheidiol i bob bod dynol.
  • Nid oes un hawl unigol sy’n bwysicach na’r gweddill.
  • Maent yn gysylltiedig ac ni ellir eu hystyried ar wahân i’w gilydd.
  • Mae mwynhau un hawl yn dibynnu ar fwynhau nifer o hawliau eraill.

Mae hawliau dynol i bawb

  • Maent yn perthyn i bawb drwy’r byd i gyd.
  • Maent yr un mor berthnasol i bobl ym mhob rhan o’r byd heb gyfyngiadau amser na gwahaniaethu.

Mae egwyddorion pwysig eraill sy’n ymwneud â hawliau dynol yn cael eu crynhoi yn Saesneg â’r acronym FREDA - Fairness, Respect, Equality, Dignity, Autonomy.

Dolenni cyswllt defnyddiol

Braslun hanesyddol

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk