Sefydliadau Hawliau Dynol Annibynnol

Dylai sefydliadau hawliau dynol annibynnol ar gyfer plant fod yn ategol i sefydliadau llywodraethol sy’n monitro’u hunain, ac ni ddylent gymryd eu lle. Mae’r Pwyllgor yn manylu ynglyn â’r mater hwn yn Sylw Cyffredinol 2 sy’n trafod rôl sefydliadau hawliau dynol cenedlaethol annibynnol er mwyn hyrwyddo a diogelu hawliau’r plentyn.

Dylai’r sefydliadau hyn fod wedi’u teilwrio er mwyn hyrwyddo a diogelu hawliau’r plentyn. Mae mwy a mwy o wladwriaethau’n sefydlu sefydliadau hawliau dynol annibynnol ar gyfer plant – boed yn ombwdsmyn ar wahân ar gyfer plant neu’n gomisiynwyr hawliau plant, neu adrannau sy’n canolbwyntio ar hawliau plant mewn comisiynau hawliau dynol neu swyddfeydd ombwdsmyn cyffredinol. Daeth sefydliadau plant o ddeuddeg gwlad yn Ewrop at ei gilydd yn 1997 i ffurfio Rhwydwaith Ombwdsmyn Plant Ewrop (ENOC). Erbyn 2007, roedd wedi tyfu i gynnwys 32 sefydliad mewn 23 o wledydd. Ceir mwy o wybodaeth ar wefan ENOC. Am wybodaeth am Gomisiynydd Plant Cymru a www.childcomwales.org.uk a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol www.equalityhumanrights.com.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk