Deddf Hawliau Dynol 1998
Daeth Deddf Hawliau Dynol 1998 i rym yng Nghymru a Lloegr yn Hydref 2000. O ganlyniad i’r ddeddf mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) yn cael ei ymgorffori mewn cyfraith ddomestig. Mae hyn yn golygu, lle bynnag y bo modd, bod yn rhaid i hawliau sy’n bodoli’n barod dan y gyfraith gael eu dehongli a’u cymhwyso mewn ffordd sy’n cydweddu â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rhaid i bob Deddf Seneddol newydd nodi sut y mae’n cydweddu â’r Ddeddf Hawliau Dynol, ac os nad yw’n cydweddu rhaid iddi nodi’r rhesymau dros hynny.
Rhaid i bob awdurdod cyhoeddus, fel adrannau’r llywodraeth, ysbytai, ysgolion a’r heddlu, barchu’r hawliau sydd yn y Ddeddf Hawliau Dynol. Mae’n berthnasol i bawb yn y Deyrnas Unedig, yn oedolion ac yn blant, ac mae’n golygu y gall dinasyddion y Deyrnas Unedig fynd i’r llys i geisio diogelu eu hawliau dynol. Yn ychwanegol at hyn, mae’n dal yn bosib iddynt geisio diogelu eu hawliau dynol drwy Lys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbwrg, Ffrainc (cyn belled â’u bod wedi gwneud popeth yn eu gallu i gael hyd i ateb yn y DU yn gyntaf).
Pa hawliau sy’n cael eu cynnwys yn y Ddeddf Hawliau Dynol?
Mae’r hawliau’n dod yn uniongyrchol o’r ECHR – mae 13 hawl sylfaenol yn yr ECHR (erthyglau 2 i 14), a thair hawl ychwanegol dan y Protocol Cyntaf. Fodd bynnag, ni chafodd un o’r hawliau hyn – yr hawl i ateb effeithiol o dan Erthygl 13 – ei chynnwys yn y Ddeddf Hawliau Dynol: dadleuodd Llywodraeth y DU nad oedd angen gwneud hynny gan y byddai’r Ddeddf ei hun yn darparu ateb effeithiol.
Erthygl 2 – hawl i fywyd
Erthygl 3 – diogelwch rhag artaith neu driniaeth neu gosb annynol neu ddiraddiol
Erthygl 4 – diogelwch rhag caethwasiaeth
Erthygl 5 – hawl i ryddid a diogelwch
Erthygl 6 – hawl i dreial teg, gan gynnwys hawl y plentyn i gael ei hysbysu ar unwaith, mewn iaith y mae’n ei deall, beth yw’r drosedd honedig, ac i gael dehonglwr yn y llys os nad yw’n gallu deall neu siarad yr iaith a ddefnyddir yn y llys. Gellir gosod cyfyngiadau gohebu er mwyn sicrhau lles plant
Erthygl 7 – ni all neb gael ei gosbi am weithred nad oedd yn drosedd ar yr adeg y cyflawnwyd hi
Erthygl 8 – hawl i barch at fywyd preifat a theuluol, cartrefi a gohebiaeth
Erthygl 9 – hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd
Erthygl 10 – hawl i ryddid mynegiant
Erthygl 11 – hawl i ryddid ymgynnull a chymdeithasiad
Erthygl 12 – hawl i briodi
Erthygl 13 – hawl i ateb effeithiol
Mae’r rhain i gyd yn cael eu cefnogi gan Erthygl 14 – mae holl hawliau’r ECHR yn berthnasol i bawb heb unrhyw wahaniaethu.
Gall plant ddefnyddio Erthygl 14 felly i herio penderfyniadau os ydynt yn credu bod eu hawliau wedi’u gwarafun neu eu treisio dim ond oherwydd eu hoedran.
Mae Protocol Rhif 1 (cytuniad ychwanegol y cytunwyd arno gan yr holl wladwriaethau sydd wedi’u rhwymo i’r Confensiwn ei hun) hefyd yn cynnwys yr hawl i beidio â chael gwrthod mynediad at addysg.
Mae’r ECHR yn cynnwys hawliau sydd, gan mwyaf, yn hawliau sifil a gwleidyddol eu natur, ac yn wahanol i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn, nid yw’n ddogfen sydd wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, ni ddylai hynny danseilio ei pherthnasedd i blant a phobl ifanc. Mae llawer o achosion sydd wedi’u hystyried gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a’r Llys yn Strasbwrg wedi ymdrin â hawliau plant. Maent wedi mabwysiadu dull cadarn iawn o ddehongli Erthyglau’r ECHR mewn achosion plant ac mae’r cysyniad bod yr ECHR yn "offeryn byw " wedi golygu bod newidiadau mewn amgylchiadau cyfreithiol a chymdeithasol yn cael eu hystyried.