Hanes hawliau dynol plant

Cysyniad cymharol newydd yw hawliau plant. Dechreuwyd trafod Hawliau Dynol yn yr 17eg ganrif, ond ni ddechreuwyd ystyried hawliau plant tan y 19eg a’r 20fed ganrif. Roedd y trafodaethau ynglyn â hawliau plant yn tueddu i ymwneud yn bennaf â hawliau a fyddai’n diogelu plant, e.e. gwahardd llafur plant, yn hytrach na’r cysyniad y dylai plant fod â’u hawliau eu hunain fel dinasyddion cyfartal yn y byd.

Ar ddechrau’r 20fed ganrif collodd miliynau o blant eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf a gadawyd llawer mwy’n amddifad o ganlyniad i’r ymladd. Yn dilyn y rhyfel ffurfiwyd Cynghrair y Cenhedloedd. Ei nod, fel corff rhynglywodraethol, oedd ceisio diogelu safonau hawliau dynol sylfaenol.

Tua’r un adeg dechreuodd athrawes o Brydain weithredu. Ei henw oedd Eglantyne Jebb, Cynorthwyodd i sefydlu Achub y Plant a drafftiodd y Datganiad ar Hawliau’r Plentyn er mwyn pwyso ar y llywodraethau a oedd mewn grym ar ôl y rhyfel i ddiogelu hawliau plant.

Yn 1924 mabwysiadodd Cynghrair y Cenhedloedd Ddatganiad Genefa ar Hawliau’r Plentyn. Fodd bynnag, yn sgil y twf mewn ffasgaeth cyn yr Ail Ryfel Byd, gwelwyd miliynau o blant unwaith eto heb neb i’w diogelu – yn cael eu lladd, eu gwenwyno gan nwyon gwenwynig neu eu gadael yn amddifad.

Erchyllterau’r Ail Ryfel Byd oedd y catalydd a arweiniodd at sefydlu ffordd newydd o reoleiddio hawliau dynol yn rhyngwladol. Yn 1945 mabwysiadodd y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.

Er bod hawliau plant ymhlyg yn y datganiad hwn, dadleuai llawer fod anghenion arbennig plant yn cyfiawnhau dogfen ychwanegol ar wahân.

Yn 1959 mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ail  Ddatganiad o Hawliau’r Plentyn.

Yn y cyfamser, dechreuodd grwp Comisiwn Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig weithio ar y drafft o’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn (CHP). Roedd sefydliadau anllywodraethol yn allweddol i’r gwaith o ddrafftio’r Confensiwn. Yn 1989, bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach, y cwblhawyd y gwaith ar yr CHP ac y mabwysiadwyd y Confensiwn gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

Mae gan yr CCUHP statws cyfraith ryngwladol. Yn ei hanfod mae’n ‘addewid i bob plentyn’ i barchu, diogelu a gwireddu ei holl hawliau dynol. Mae’n un o’r cytuniadau mwyaf cynhwysfawr o’r holl gytuniadau hawliau dynol, ac mae’n cynnwys rhestr gyflawn o hawliau sifil, gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Daeth Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i rym ar 2 Medi 1990. Cafodd ei gadarnhau gan y Deyrnas Unedig yn 1991 er bod rhai cymalau cadw wedi’u cyflwyno.

  • 1924 - Datganiad Genefa o Hawliau’r Plentyn yn cael ei fabwysiadu gan Gynghrair y Cenhedloedd
  • 1948 - Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn cael ei fabwysiadu gan y Cenhedloedd Unedig
  • 1959 - Datganiad o Hawliau’r Plentyn yn cael ei fabwysiadu gan y Cenhedloedd Unedig
  • 1979 - Blwyddyn Ryngwladol y Plentyn
  • 1989 - Y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn cael ei fabwysiadu gan y Cenhedloedd Unedig
  • 1990 - Cynnal Uwchgynhadledd y Byd ar Blant ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig
  • 1991 - Y Deyrnas Unedig yn cadarnhau’r CCUHP
  • 2000 - Protocolau Dewisol i’r CHP yn cael eu mabwysiadu gan y Cenhedloedd Unedig, yn fwyaf penodol ynghylch Cynnwys Plant mewn Gwrthdaro Arfog, ac ynghylch Gwerthu Plant, Puteindra ymysg Plant a Phornograffi Plant.
  • 2002 – Cytuno ar ‘A World Fit for Children’ fel dogfen gonsensws mewn Sesiwn Arbennig i Blant o Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig

Dolenni Cyswllt Defnyddiol

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk