Llywodraeth Gydgysylltiedig

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cymryd nifer o gamau cadarnhaol er mwyn sefydlu strwythurau llywodraethu sy’n sicrhau lle uchel ar yr agenda wleidyddol i faterion sy’n ymwneud â phlant, cydgysylltu effeithiol a throsolwg ar weithredu CCUHP.

Ceir:

  • Gweinidog dros Blant sy’n gyfrifol am weithredu CCUHP ac am hyrwyddo hawliau plant ym mhob rhan o’r llywodraeth.
  • Pwyllgor Cabinet Plant a Phobl Ifanc sy’n gyfrifol am oruchwylio gweithrediad CCUHP yng Nghymru.
  • Rhwydwaith datblygu plant a phobl ifanc sy’n cefnogi gwaith Pwyllgor y Cabinet ac yn annog cryfhau datblygiadau polisi trawsbynciol ar gyfer materion sy’n ymwneud â phlant. Cadeirydd y grwp yw’r Cyfarwyddwr Cyffredinol dros Blant a Phobl Ifanc.
  • Tim Polisi Hawliau a Gweithredu yn yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau sy’n arwain ym maes cydgysylltu gwaith sy’n ymwneud â CCUHP ym mhob rhan o Lywodraeth y Cynulliad. Cysylltwch â  ac ewch i'w wefan "CCUHP Gwneud Pethau'n Iawn" sy'n cynnwys pecynnau cymorth ac adnoddau defnyddiol eraill sy'n ymwneud â CCUHP yng Nghymru.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc, Pwyllgor o Aelodau Cynulliad sydd â’r dasg o graffu ar ddatblygiadau polisi a deddfwriaeth sy’n ymwneud â phlant gan Lywodraeth y Cynulliad.

Llywodraeth Leol

Mae canllawiau Deddf Plant 2004 ar gyfer Cymru’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a’u partneriaid ystyried CCUHP.

Mae partneriaethau strategol a elwir yn bartneriaethau plant a phobl ifanc yn bodoli er 2002 ac maent wedi bod ar sail statudol ers y ddeddfwriaeth uchod yn 2004. Mae’n ofynnol dan y gyfraith i awdurdodau lleol ac asiantaethau allweddol sy’n bartneriaid gydweithio er mwyn gwella lles plant a phobl ifanc yn yr ardal leol. Yn dilyn Deddf Plant 2004 mae’n ddyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i benodi cyfarwyddwr arweiniol ac aelod arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc.

Rhaid i fyrddau iechyd lleol ddynodi swyddogion arweiniol ac mae aelodau arweiniol Ymddiriedolaethau’r GIG yn dynodi cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol arweiniol â chyfrifoldebau sy’n adlewyrchu rhai cyfarwyddwr arweiniol yr awdurdod lleol.

Mae’n ofynnol i bob un o’r 22 Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc gynhyrchu cynllun plant a phobl ifanc sy’n nodi "sut y bydd lles plant a phobl ifanc yn cael ei wella". Mae’r cynlluniau hyn yn seiliedig ar y 7 Nod Craidd, sy’n drosiad uniongyrchol o CCUHP.

Cefnogir y Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc gan yr Uned Cefnogi Partneriaethau, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i chynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae gan yr Uned Cefnogi Partneriaethau ei gwefan ei hun sydd i’w gweld yn www.psucymru.org.uk

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk