Sylwadau Terfynol

Anfonir y Sylwadau Terfynol at y Wladwriaeth sy’n barti i’r Confensiwn gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar ôl i’r Pwyllgor dderbyn pob adroddiad, clywed gan y cyrff anllywodraethol, y sefydliadau hawliau dynol annibynnol a phlant a phobl ifanc a chroesholi Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n argymell sut y gall y Wladwriaeth sicrhau cydymffurfiad â’r CCUHP yw’r sylwadau terfynol. Maent yn nodi:

  • Meysydd pryder a nodwyd gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig
  • Ffactorau ac anawsterau sy’n rhwystro’r CCUHP rhag cael ei weithredu
  • Argymhellion ar gyfer camau i’w cymryd yn y dyfodol.

Dylai’r sylwadau hyn wedyn fod yn fan cychwyn ar gyfer yr adroddiad nesaf.

Dylent gael eu gweld fel ffordd unigryw o ysgogi trafodaeth ar lefel genedlaethol:

  • Drwy bennu blaenoriaethau a pharatoi partneriaid ar lefelau cenedlaethol a lleol
  • Drwy roi pwysau ar isadrannau’r llywodraeth a gweithredu argymhellion y Pwyllgor
  • Drwy bwyso am newidiadau yn y ddeddfwriaeth ac mewn arferion

Mae’n ddyletswydd ar Wladwriaethau i sicrhau bod yr adroddiadau a’r Sylwadau Terfynol ar gael i gynifer ag sy’n bosib o bobl yn eu gwledydd eu hunain (erthygl 44.6).

Dolenni Cyswllt Defnyddiol

Sylwadau Terfynol 2002

Sylwadau Terfynol 2008

Fersiwn o Sylwadau Terfynol 2008 ar gyfer pobl ifanc

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk