Strategaeth hawliau plant

Beth mae angen ei wneud?

 

  • Offeryn hunanasesu hawliau plant
    Er mwyn cael cymorth i ddeall i ba raddau y mae’ch sefydliad yn bodloni safonau hawliau plant ac i ddatblygu strategaeth a chynllun gweithredu hawliau plant.
  • Dadansoddiad o sefyllfa hawliau plant 
    e.e. y partneriaethau plant a phobl ifanc drwy eu cynllun unigol. Mae angen i’r broses gynllunio fod yn gwbl ymwybodol o hawliau plant nad ydynt yn cael eu gwireddu yn yr ardal leol a rhannu’r wybodaeth hon â gweddill yr awdurdod lleol yn ogystal â’u cynllun i fynd i’r afael ag achosion o dreisio hawliau.
  • Asesiad o’r effaith ar hawliau plant 
    Dylid prawfesur pob polisi, deddfwriaeth, prosiect a chyllideb er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r CCUHP.
  • Cyllidebu ar gyfer hawliau plant 
    Dylid cynllunio’r gyllideb yn unol â phennaf les plant a phobl ifanc, a dylid gwneud y gwariant a ddyrennir a’r gwir wariant ar blant yn dryloyw i’r cyhoedd, rhanddeiliaid perthnasol a’r plant a’r bobl ifanc eu hunain. Am fwy o wybodaeth ceir canllaw ar gyllidebu ar gyfer hawliau plant yn lleol.
  • Cyfranogiad plant a phobl ifanc 
    wrth gynllunio ac adolygu polisïau a gwasanaethau – rhaid datblygu strategaeth gyfranogi.
  • Peidio â gwahaniaethu yn erbyn plant a phobl ifanc 
    rhaid cael trefniadau clir er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu yn erbyn plant a phobl ifanc o ran cynllunio gwasanaethau a mynediad at wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc .
  • Codi Ymwybyddiaeth 
  • Hyfforddiant i staff ar hawliau plant 
    Mae dealltwriaeth o hawliau plant yn hollbwysig. Os ydym am lwyddo i weithredu’r Confensiwn yng Nghymru dylid datblygu cynllun gweithredu ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth a dylai’r holl staff gael hyfforddiant hawliau plant, mynediad at wybodaeth ac addysg a hyfforddiant. 
  • Comisiynu a chaffael 
    dylid prawfesur pob proses gomisiynu a chaffael i sicrhau eu bod yn cydymffurfio’r â’r CCUHP.
  • Fframwaith Arolygu 
  • Polisi a gweithdrefnau amddiffyn plant 
    os yw unrhyw waith yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, rhaid i sefydliadau ddatblygu polisi a gweithdrefnau amddiffyn plant er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei ddiogelu rhag niwed.
  • Rheoli perfformiad 
    dylai’r sefydliad ymgorffori dangosyddion hawliau plant yn eu system rheoli perfformiad. Mae Fframwaith ar gyfer Dulliau Mesur Canlyniadau’n cael ei ddatblygu yng Nghymru ar hyn o bryd ar gyfer y Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc. 

 

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk