Offeryn hunanasesu corfforaethol ar gyfer hawliau plant

Nod yr offeryn hunanasesu yw helpu sefydliadau’r sector cyhoeddus i asesu eu dulliau presennol o brif ffrydio hawliau plant ac adnabod a herio’r rhwystrau sy’n atal cynnydd. Yn dilyn penderfyniad y Cynulliad i fabwysiadu’r CCUHP yn 2004 mae canllawiau Deddf Plant 2004 ar gyfer Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a’u partneriaid ystyried yr CCUHP, a’i ymgorffori mewn is-ddeddfwriaeth:

"Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig fel sail ar gyfer ei holl ymwneud â phlant a phobl ifanc, a dylai awdurdodau lleol a’u partneriaid perthnasol ystyried ei egwyddorion wrth ddarparu gwasanaethau."

Rhaid i Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc gynhyrchu cynlluniau sy’n cefnogi lles plant a phobl ifanc yn eu hardal leol ac mae’r cynlluniau hyn yn seiliedig ar y 7 Nod Craidd, sy’n drosiad uniongyrchol o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Er hyn, nid oes dull corfforaethol clir o gefnogi’r gwaith o weithredu hawliau plant mewn awdurdodau lleol a’u partneriaid ledled Cymru.

Rydym wedi datblygu’r offeryn hunanasesu i’ch helpu i ddeall i ba raddau y mae’ch sefydliad chi’n bodloni safonau hawliau plant a beth y gallwch ei wneud er mwyn dod yn sefydliad rhagorol sy’n gweithio er mwyn gwireddu hawliau plant.

Nid yw’r offeryn wedi’i ddatblygu ar sail archwiliad ffurfiol ac, o ganlyniad, ni ddylid ei ystyried fel offeryn dangosol. Mae’n cynrychioli’n barn ni ynglyn â sut y gall awdurdodau lleol a’u partneriaid wella’u dulliau corfforaethol ym mhob un o’r 6 maes priodoledd perfformiad.

Rydym yn ymgynghori gyda phartneriaid ynglyn â’r offeryn ar hyn o bryd a gellir ei weld yma.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk