Plant a phobl ifanc

Mae plant a phobl ifanc yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn cael ei weithredu’n llawn yng Nghymru. Mae angen sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gwbl ymwybodol o’u hawliau dan y Confensiwn a sut i’w defnyddio. Mae angen iddynt hefyd gael eu cynnwys mewn gwaith monitro ac adrodd am hawliau plant, yn ogystal â chwarae rhan weithredol yn y broses o alw’r Llywodraeth i gyfrif a sicrhau ei bod yn parchu, diogelu a gwireddu hawliau plant.

Draig Ffynci

Draig Ffynci, y Cynulliad i Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru, yw’r corff ymbarél sy’n cael ei arwain gan blant a phobl ifanc gyda’r bwriad o hyrwyddo a chefnogi’r gwaith o weithredu’r CCUHP yng Nghymru. Ei nod yw rhoi cyfle i blant a phobl ifanc 0 – 25 oed leisio’u barn ynglyn â materion sy’n effeithio arnynt hwy. Mae’r cyfle i gymryd rhan a chael eich clywed yn hawl sylfaenol dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae Draig Ffynci’n ceisio cynrychioli ystod mor eang ag sy’n bosib o blant a gweithio gyda phobl sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau newid.

Prif dasgau Draig Ffynci yw sicrhau bod barn plant a phobl ifanc yn cael ei chlywed, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru’n fwyaf arbennig, a chynorthwyo plant a phobl ifanc i fod yn rhan o benderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar lefel genedlaethol.

Mae Draig Ffynci wedi arwain gwaith arloesol na welwyd ei debyg mewn unrhyw ran o’r byd, a gwaith ymchwil manwl yn cael ei arwain gan gyfoedion er mwyn casglu barn plant ynglyn â’u hawliau. Yn ychwanegol at hyn mae wedi datblygu adnoddau i gynyddu ymwybyddiaeth ynglyn â hawliau plant ac mae wedi darparu hyfforddiant.

Mae Draig Ffynci’n aelod allweddol o Grwp Monitro CCUHP Cymru.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gwaith y mae wedi’i wneud a’r gwaith y mae’n ei wneud ar hyn o bryd ewch i wefan Draig Ffynci.

Comisiynydd Plant Cymru

Os oes ar blant a phobl ifanc angen cyngor a chymorth i leisio’u barn, cael rhywun i siarad drostynt neu wneud cwyn, yna mae Comisiynydd Plant Cymru ar gael i sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu parchu.

Galwad ffôn am ddim :

Testun am ddim : a dechrau â COM

http://www.complantcymru.org.uk/cy/

Yn ychwanegol at hyn, er mwyn cael cymorth a chyngor gallwch ffonio Childline ar

Gwybodaeth addas i blant a phobl ifanc am yr CCUHP

Os oes arnoch angen gwybodaeth sy’n fwy addas ar gyfer plant a phobl ifanc am yr CCUHP ewch i:

www.funkydragon.org

http://www.complantcymru.org.uk/cy/

www.cliconline.co.uk

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk