Gwneud Plant yn weladwy mewn cyllidebau

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wedi nodi’n glir bod cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig yn golygu bod angen i Wladwriaethau ddadansoddi gwariant cyhoeddus ar blant a dod i’r casgliad, yn unol ag Erthygl 4 o’r Confensiwn, eu bod yn gwario ‘cymaint ag y bo modd o’r adnoddau sydd ar gael’ er mwyn gwireddu hawliau plant. Gwnaeth y Pwyllgor argymhellion i’r perwyl hwn yn ei archwiliad cyfnodol o Wladwriaeth y Deyrnas Unedig yn 2002 a 2008 ac mae Sylw Cyffredinol 5 (ar Gamau Gweithredu Cyffredinol y Confensiwn) yn rhoi mwy o fanylion am yr hyn sy’n ofynnol yng nghyswllt dadansoddi cyllidebau a sut y mae’r gweithgaredd hwn yn ategu gwaith rheolaidd y Wladwriaeth o goladu dangosyddion hawliau plant.

Mae tryloywder mewn gwariant cyhoeddus yn cynorthwyo llywodraethau i sicrhau eu bod yn gwneud defnydd effeithiol o’r ‘adnoddau sydd ar gael’ er mwyn gwireddu hawliau plant ac yn gwario cyfran briodol o’u cyllidebau i’r perwyl hwn. Mae hefyd yn cynorthwyo cymdeithas sifil (gan gynnwys plant a phobl ifanc) i alw llywodraethau i gyfrif.

Yn ogystal â’r gwaith arferol o gynhyrchu cyllidebau plant, sy’n nodi faint y mae llywodraethau’n ei wario ar blant, dylai llywodraethau sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu galluogi i gymryd rhan yn y broses o bennu cyllidebau a monitro’r defnydd mwyaf effeithiol o wariant cyhoeddus yn unol ag Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Cefndir cyllidebu ar gyfer plant yng Nghymru

Mae Achub y Plant wedi cael nifer o drafodaethau gyda Llywodraethau olynol yn y Cynulliad. Yn 2002 comisiynodd Achub y Plant economegydd o Ysgol Economeg Llundain i ddadansoddi gwariant cyhoeddus ar blant er mwyn canfod pa effaith y mae datganoli wedi’i gael ar y proffil gwariant. Cyflwynwyd yr adroddiad hwn i Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant ar y pryd, ac arweiniodd at drafodaeth gadarnhaol ynghylch yr angen i wneud gwariant ar blant yn fwy tryloyw.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymdrechu yn ystod y cyfnod cysylltiol i bennu pa gyfran o’i chyllideb sy’n cael ei gwario ar blant. Mewn adroddiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn 2007, cynhwysodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ddadansoddiad sy’n dangos pa gyfran o’r gyllideb sy’n cael ei gwario ar blant (yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny) a dywedodd ei bod yn bwriadu gwneud rhagor o waith fel bod modd cael dadansoddiad mwy soffistigedig. Yn ychwanegol at hyn, rhyddhaodd yr adroddiad hwn yn 2009.

Cynhaliodd Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad Cenedlaethol ymchwiliad i gyllidebu ar gyfer plant rhwng Ionawr a Mawrth 2009. Mae’r adroddiad hwn yn gwneud argymhellion ar gyfer Cymru a gellir ei weld yma.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu grwp gorchwyl a gorffen i edrych sut y gellir symud ymlaen â chyllidebu ar gyfer plant, a datblygu cynigion i’w hystyried gan Weinidogion ynghylch ffyrdd o wella rhagamcanion cyllidebol a gwariant ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys mwy o dryloywder ar lefel Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd hefyd yn ystyried materion megis cyllidebu cyfranogol, gwariant ar blant tlawd a’r cysylltiad rhwng cyllidebau, gwariant a chanlyniadau i blant a phobl ifanc, ac yn ystyried argymhellion Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad Cenedlaethol.

Yn gysylltiedig â’r gwaith hwn, a chan adeiladu arno, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi sefydlu dau brosiect newydd. Y prosiect cyntaf yw datblygu adnodd newydd i’w ddefnyddio gyda phobl ifanc er mwyn helpu i wella’u gwybodaeth ariannol mewn lleoliadau cymunedol ac mewn ysgolion. Bydd yr ail brosiect yn adeiladu ar y prosiect cyntaf gan glustnodi gwaith blaenorol sydd wedi’i wneud ynghylch cyllidebu cyfranogol cyn datblygu a darparu hyfforddiant. Bydd hyn wedyn yn arwain at nifer o brosiectau peilot lleol a chenedlaethol a fydd yn cynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau cyllidebol yn unol ag Erthygl 12 o’r CCUHP. Yn ychwanegol at hyn, bydd y canllawiau diwygiedig ar ddatblygu partneriaethau a chynlluniau lleol yn ystyried sut y gellid datblygu cyllidebu cyfranogol yn lleol gan adeiladu ar waith y prosiectau uchod.

Mae Achub y Plant wedi cyhoeddi canllaw ar gyllidebau plant i awdurdodau lleol yn ddiweddar. Mae’r canllaw i’w weld yma, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn adran Gwasanaethau'r wefan.

Y Deyrnas Unedig

Mae Achub y Plant wedi dadansoddi cyllidebau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban er mwyn asesu gwariant cenedlaethol ar blant tlawd (y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill), gan wneud cymariaethau rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig lle bo’n briodol ac astudio newidiadau er 1997. Mae’r astudiaeth yn canolbwyntio ar sectorau allweddol, gan gynnwys y blynyddoedd cynnar, addysg, nawdd cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Mae’r adroddiad i’w weld yma.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk