Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

Rôl a swyddogaeth

Sefydliad hawliau plant annibynnol yw Comisiynydd Plant Cymru, a sefydlwyd yn 2001. Prif nod y sefydliad yw diogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru. Peter Clarke oedd y Comisiynydd Plant cyntaf i gael ei benodi yn y DU, cyn i Keith Towler ymgymryd â’r swydd yn 2008. Bydd yn parhau yn y swydd tan 2015.

Sefydlwyd Comisiynydd Plant Cymru mewn dau gam, dan Ran V Deddf Safonau Gofal 2000 a dan Ddeddf Comisiynydd Plant Cymru 2001. Dyma rai o swyddogaethau’r Comisiynydd dan Ddeddf Safonau Gofal 2000:

  • rhoi cyngor a gwybodaeth i blant a phobl ifanc yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ac oedolion eraill sy’n pryderu am hawliau a lles plentyn penodol neu blant yn gyffredinol;
  • cynnig cyngor a chefnogaeth i blant a phobl ifanc, gan eu helpu i fynegi eu barn a’u dymuniadau;
  • archwilio achosion lle mae’n bosibl bod gwasanaethau wedi esgeuluso plentyn neu blant;
  • cynorthwyo plant a phobl ifanc – gan gynnwys darparu cymorth ariannol a’u cynrychioli mewn achosion cyfreithiol – nad yw eu hawliau wedi cael eu parchu.

Mae’n gweithio gyda, ac ar ran, plant a phobl ifanc hyd at 18 oed sy’n byw yng Nghymru, neu sy’n byw yng Nghymru fel arfer. Gall ei dîm hefyd weithredu ar ran pobl ifanc hŷn (hyd at 25 oed) sydd wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol.

Ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)

Wrth gyflawni ei swyddogaethau, mae’n rhaid i Gomisiynydd Plant Cymru ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Mae hefyd yn ofyniad statudol i Gomisiynwyr Plant Gogledd Iwerddon a’r Alban ystyried CCUHP yn eu holl waith. Er hynny, y gofyniad i Gomisiynydd Plant Lloegr (sydd hefyd â rôl gyfreithiol yng nghyswllt materion nas datganolwyd sy’n ymwneud â phlant) yw cyfeirio at CCUHP fel cymorth i ddehongli ‘buddiannau plant’. O ganlyniad, ceir cyswllt gwannach o lawer gyda CCUHP yng nghyswllt materion nas datganolwyd sy’n effeithio ar blant yng Nghymru.

Polisi

Mae cylch gwaith y Comisiynydd yn cwmpasu holl feysydd pwerau datganoledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y byddant yn effeithio ar hawliau a lles plant, a gall y Comisiynydd hefyd wneud sylwadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch unrhyw fater sy’n effeithio ar hawliau a lles plant yng Nghymru.

Dan y ddeddfwriaeth, gall y Comisiynydd:

  • adolygu effeithiau’r polisïau; polisïau arfaethedig a’r gwasanaethau a ddarperir i blant;
  • edrych yn fanylach ar achos plant neu blentyn penodol os yw’n cynnwys mater sy’n berthnasol i fywydau plant yng Nghymru yn gyffredinol; a
  • gwneud cais am wybodaeth gan asiantaethau neu bobl sy’n gweithredu ar eu rhan, a gofyn i dystion roi tystiolaeth dan lw.

Adroddiadau, Ymholiadau ac adolygiadau

Bydd y Comisiynydd Plant yn llunio tri math o adroddiad:

  • yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon, dan Ran VI, rheoliad 15 Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001
  • adroddiadau archwiliadau ffurfiol (e.e. Clywch), DAN Ran VI, rheoliadau 13 a 14 Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001
  • adroddiadau ar bynciau penodol (e.e. toiledau ysgol, cludiant i’r ysgol, gofalwyr ifanc), dan Ran VI, rheoliad 13 (2) Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001.

Mae adroddiadau blynyddol y Comisiynydd Plant wedi tynnu sylw’r llywodraeth a chymdeithas sifil at bryderon penodol, ac wedi rhoi gwelliannau neilltuol ar waith yng nghyswllt datblygu arferion a pholisïau sy’n effeithio ar blant yng Nghymru.

Yn 2005, cyhoeddodd Peter Clarke Clywch. Dyma oedd penllanw archwiliad i achos penodol a oedd yn ymwneud â honiadau o gam-drin plant mewn ysgol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys llawer o argymhellion ar gyfer gwella’r gweithdrefnau diogelu plant mewn ysgolion. Roedd yr adroddiadau Datgelu Pryderon – adroddiad ynghylch gweithdrefnau adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ar gyfer cwynion a datgelu camarfer, a darparu gwasanaethau eiriolaeth – a Dydy Plant ddim yn Cwyno – adroddiad ynghylch yr un trefniadau mewn awdurdodau addysg lleol – yn ddylanwadol dros ben o ran hoelio’r sylw ar y rheini sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb perthnasol o ran yr angen i wella arferion a pholisi.

Adrodd am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Keith Towler, a ddechreuodd ar y swydd ym mis Mawrth 2008, oedd Comisiynydd Plant cyntaf Cymru i fynychu gwrandawiad cyn-sesiynol cyrff anllywodraethol, pobl ifanc a sefydliadau hawliau dynol annibynnol ym mis Mehefin 2008, a Chomisiynydd Plant cyntaf Cymru i fod yn bresennol fel arsylwr wrth i Bwyllgor y CU groesholi plaid Gwladwriaeth y DU ym mis Medi 2008. Bu hefyd yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o ddatblygu adroddiad ar y cyd gan bedwar : Comisiynydd Plant y DU i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn.

Rhaglen waith gyfredol

Mae hawliau plant yn ganolog i raglen waith Keith Towler. Yn ei gynllun corfforaethol pum mlynedd), mae’n nodi mai plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, y rheini ag anableddau, plant a phobl ifanc sy’n sipsiwn-teithwyr a’r rheini sy’n rhan o’r system cyfiawnder ieuenctid yw’r grwpiau y pryderir fwyaf amdanynt.

Dyma rai o flaenoriaethau tîm y Comisiynydd:

  • Gwella dealltwriaeth o hawliau plant a phobl ifanc, ac o Gomisiynydd Plant Cymru. Er mwyn... i blant, pobl ifanc ac oedolion ddeall eu hawliau’n well a sut gall y Comisiynydd helpu os nad yw pobl yn cael eu hawliau
  • Lleihau anghydraddoldeb a gwahaniaethu. Er mwyn... i blant a phobl ifanc gael cyfle teg
  • Parhau i fod yn sefydliad sy’n cyflawni’n dda, gan ddarparu arweinyddiaeth ysbrydoledig i eraill. Er mwyn... i ni allu gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno gwahaniaethau cadarnhaol a pharhaol i fywydau a phrofiadau plant a phobl ifanc
  • Sicrhau y darperir gwasanaethau effeithiol i blant a phobl ifanc. Er mwyn... sicrhau y caiff plant a phobl ifanc eu hamddiffyn, y darperir gwasanaethau a chefnogaeth iddynt, ac y gallant gyfrannu at benderfyniadau am eu bywydau
  • Gwella agweddau tuag at blant a phobl ifanc. Er mwyn... i bawb barchu plant a phobl ifanc
  • Creu sefydliad cryf, hyderus, ysbrydoledig a chadarn. Er mwyn... i’n staff weithio’n effeithiol fel tîm i helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol.

Manylion cyswllt

Gallwch gysylltu â’r tîm naill ai yn y swyddfa yn Abertawe ar , neu ym Mae Colwyn ar .

Mae ganddynt rif rhadffôn hefyd: neu gallwch anfon neges testun at y tîm ar (dechreuwch eich neges gyda COM).

Gallwch anfon neges e-bost at y tîm ar a dilyn gweithgarwch y Comisiynydd ar Twitter ()

I gael rhagor o wybodaeth am waith y Comisiynydd Plant ac i weld ei holl gyhoeddiadau, mewngofnodwch i: http://www.complantcymru.org.uk/cy/

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk