Cyllidebu ar gyfer hawliau plant

Mae cyllidebu ar gyfer plant yn cael llawer o sylw ar lefel genedlaethol yng Nghymru. Cyflwynodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar ei ymchwiliad i Gyllidebu ar Gyfer Plant a disgwylir ymateb gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2010. Cyn i’r Pwyllgor gyflwyno’i adroddiad sefydlodd Llywodraeth y Cynulliad Grwp Gorchwyl i ddatblygu cynigion ar gyfer Gweinidogion er mwyn gwella prosesau rhagweld cyllidebau a sicrhau mwy o dryloywder ym maes gwariant ar blant a phobl ifanc. Disgwylir i’r Grwp gyflwyno adroddiad i Weinidogion yn 2010. Ar lefel leol, mae nifer o enghreifftiau o ymarfer da mewn cyllidebu ar gyfer plant mewn gwasanaethau, awdurdodau lleol a phrosiectau ledled Cymru.

Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth am gyllidebu ar gyfer plant, a chyllidebu ar gyfer plant ar lefel leol, darllenwch ein canllawiau yma.

Cyfeiriwyd yr wybodaeth a’r cyngor sydd yn y canllawiau hyn at lywodraeth leol, byrddau iechyd ac eraill sy’n darparu gwasanaethau lleol er mwyn eu helpu i weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn llawn yng Nghymru. Bwriadwyd y canllawiau er mwyn helpu Cyfarwyddwyr Arweiniol a Chydgysylltwyr Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc, cydgysylltwyr Fforymau Ieuenctid, swyddogion llywodraeth leol, rheolwyr y gwasanaeth iechyd ac athrawon ysgol i ddatblygu eu gallu eu hunain a gallu plant a phobl ifanc i ymwneud â’r gwaith o fonitro a gwerthuso gwariant cyhoeddus (gan gynnwys cyllidebau llywodraeth leol a/neu ysgolion) er mwyn gwireddu hawliau plant.

Mae rhan gyntaf y canllawiau’n rhoi cefndir cyllidebu ar gyfer plant yng nghyd-destun Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac yn cynnwys dolenni cyswllt perthnasol i bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r ail ran yn disgrifio cyllidebu ar gyfer plant ar lefel awdurdod lleol ac yn nodi pam y mae’n bwysig er mwyn gwireddu hawliau plant. Mae’r drydedd ran yn cynnwys canllawiau ar ddadansoddi a monitro cyllidebau. Mae’r bedwaredd adran yn disgrifio cyllidebu cyfranogol ac yn cynnwys enghreifftiau ymarferol. Yn y rhan olaf ceir rhestr o adnoddau er mwyn cael rhagor o wybodaeth a chyngor. Mae’r canllawiau’n cynnwys awgrymiadau da ar gyfer cyllidebu ar gyfer plant.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk