Amdanom

Cynlluniwyd Hawliau Plant Cymru er mwyn helpu ymarferwyr lleol, llunwyr polisïau, rheolwyr a strategyddion i ddatblygu eu dealltwriaeth o hawliau plant a sicrhau eu bod yn ystyried hawliau plant yn eu gwaith.

Cynhyrchir Hawliau Plant Cymru gan Achub y Plant ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae llawer o’n partneriaid – yn enwedig Grwp Monitro CCUHP Cymru - yn ymwneud â’r gwaith parhaus o ddatblygu’r adnodd hwn ar y we.

Mae Achub y Plant yn gweithio ym mhob rhan o Gymru er mwyn dileu tlodi plant, gwella addysg, cryfhau hawliau plant ac annog cyfranogi.

  • Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a phartneriaid eraill er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud popeth posib i helpu plant a theuluoedd sydd mewn tlodi ac yn rhoi ystyriaeth lawn i hawliau plant a phobl ifanc.
  • Rydym yn hyrwyddo ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
  • Rydym yn datblygu adnoddau ac yn darparu hyfforddiant er mwyn helpu awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill ledled Cymru i weithio’n effeithiol er mwyn gwella bywydau plant sy’n byw mewn tlodi a rhoi lle amlwg i hawliau plant a phobl ifanc.
  • Rydym yn helpu i ddod o hyd i atebion i’r rhwystrau sy’n wynebu plant tlawd mewn addysg yng Nghymru er mwyn lleihau anghydraddoldeb mewn addysg.

Ceir mwy o wybodaeth am waith Achub y Plant yng Nghymru.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk