Polisi a diwygio’r gyfraith

Mae hawliau a lles plant wedi bod yn bwnc pwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru ers llawer o flynyddoedd, a hynny’n rhannol oherwydd y cysylltiad cryf rhwng y llywodraeth a chyrff anllywodraethol. Ers y setliad datganoli a sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, rydym wedi gweld llawer o ddogfennau polisi a strategaeth yn ymwneud â phlant a phobl ifanc. Mae datganoli wedi arwain at ddull newydd a mwy cynhwysol o lywodraethu, ac yn y cyd-destun hwn mae plant wedi dod yn hynod bwysig i lywodraethau newydd Cymru.

Y llywodraeth genedlaethol

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i dyfynnu fel un sy’n ystyried plant fel deiliaid hawliau:

"Dylid trin plant a phobl ifanc fel dinasyddion, a dylid ystyried eu hawliau a’u barn. Nid ydynt yn rhywogaeth ar wahân, i’w galw yn angylion ac yn ddemoniaid bob yn ail, nac yn oedolion dan hyfforddiant sydd heb eto ennill eu lle’n iawn mewn cymdeithas".

Yn 2002, croesawodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn y ffaith fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi defnyddio’r Confensiwn fel fframwaith i’w strategaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn 2004, mae’r pwyslais ar bwysigrwydd hawliau plant i’w weld gliriaf wrth i’r Cynulliad, yn unol â’i bwerau, fabwysiadu’r Confensiwn fel sail i bob polisi sy’n cael ei lunio ar gyfer plant a phobl ifanc, gan osod ei strategaeth drosfwaol ar gyfer plant mewn fframwaith sy’n seiliedig ar hawliau ac sy’n gysylltiedig â gweithredu’r CCUHP.

Yn 2004, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Gweithredu’r Hawliau, dogfen bolisi yn 7 Nod Craidd ar gyfer plant, sy’n cael eu cyflwyno fel trosiad uniongyrchol o erthyglau’r CCUHP i’r nodau polisi cyffredinol isod er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc:

  • Yn cael dechrau da mewn bywyd: Erthyglau 3, 29, 36
  • Yn cael ystod gynhwysfawr o gyfleoedd addysg a dysg: Erthyglau 23, 28, 29, 32
  • Yn mwynhau’r iechyd gorau posib, yn rhydd o gamdriniaeth, erledigaeth ac ecsbloetiaeth: Erthyglau 6, 18-20, 24, 26-29, 32-35, 37 a 40.
  • Yn gallu cael mynediad at weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol: Erthyglau 15, 20, 29, 31
  • Yn cael eu trin â pharch, yn cael pobl i wrando arnynt, gan gydnabod eu hil a’u hunaniaeth ddiwylliannol: Erthyglau 2, 7, 8, 12-17, 20.
  • Yn byw mewn cartref a chymuned ddiogel sy’n cefnogi lles corfforol ac emosiynol: Erthyglau 19, 20, 25, 27, 32-35, 37 a 40.
  • Ddim dan anfantais oherwydd tlodi: Erthyglau 6, 26, 7, 28.

Datblygwyd cynlluniau cenedlaethol penodol, fel y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a’r Gwasanaethau Mamolaeth

Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Troseddwyr Ifanc

Dyfodol Teg i’n Plant

Strategaeth iechyd a lles rhywiol

Strategaeth Tlodi Plant Cyntaf Cymru 'Dyfodol Teg' a'r Strategaeth Tlodi Plant Cymru drafft presennol.

 Datblygwyd y Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc gydag ystadegau a gysylltir yn  benodol gyda’r CCUHP ac y gellir eu gweld fel mesurau i weithredu’r saith nod craidd. 

Cynllun cenedlaethol arall sy’n dod o dan ymbarél y 7 Nod Craidd yw Ymestyn Hawliau sy’n nodi cyfeiriad cyfreithiol y Cynulliad ar gyfer gwasanaethau ieuenctid. Mae’n nodi hawliau sylfaenol cyffredinol ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed. Nid yw’r 10 hawl wedi’u cysylltu’n benodol â’r CCUHP ond maent yn amlwg yn gyson ag ef. Y pwynt pwysig yw bod iaith hawliau’n cael ei mabwysiadu gan droi’r ymagwedd gysyniadol yn ymagwedd sy’n seiliedig ar hawliau.

Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar hawliau plant

Ar 20 Tachwedd 2009, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Gwneud Pethau’n Iawn, cynllun gweithredu ar gyfer Cymru, wedi’i ddatblygu yn unol â’r egwyddorion a nodwyd yn Sylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig 2008, ac sy’n ffurfio rhan o gynllun gweithredu ehangach ar gyfer Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig, sy’n cael ei ategu gan gynlluniau unigol ar gyfer pob un o weinyddiaethau datganoledig y Deyrnas Unedig.

Bydd y Cynllun yn ddogfen organig fyw a bydd yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn ystyried datblygiadau newydd mewn polisi a strategaeth ac yn parhau’n berthnasol ac yn amserol. Bydd hyn yn galluogi’r Llywodraeth i ychwanegu unrhyw feysydd blaenoriaeth newydd fel y maent yn dod i’r amlwg yn ystod y cyfnod o 5 mlynedd a thynnu statws blaenoriaeth unrhyw feysydd lle gallent hwy eu hunain a’u partneriaid fod o’r farn fod digon o gynnydd wedi’i wneud yn ystod y cyfnod o 5 mlynedd.

Nod y Llywodraeth erbyn yr adeg y bydd yn adrodd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn 2014 yw dangos cynnydd sylweddol ym mhob un o’r meysydd blaenoriaeth y mae gan Gymru gymhwysedd deddfwriaethol a phwerau datganoledig ar eu cyfer, er mwyn cynorthwyo pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru i wybod, i ymarfer ac i gael mynediad i’w hawliau dan yr CCUHP a’u hawliau dynol.

Llywodraeth leol

Yn dilyn penderfyniad y Cynulliad i fabwysiadu’r CCUHP yn 2004 mae canllawiau Deddf Plant 2004 ar gyfer Cymru yn nodi ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol a’u partneriaid ystyried yr CCUHP, a’i ymgorffori mewn is-ddeddfwriaeth:

"Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig fel sail ar gyfer ei holl ymwneud â phlant a phobl ifanc, a dylai awdurdodau lleol a’u partneriaid perthnasol ystyried ei egwyddorion wrth ddarparu gwasanaethau".

Mae partneriaethau strategol (a elwir yn bartneriaethau plant a phobl ifanc) yn bodoli er 2002 ac maent wedi bod ar sail statudol ers y ddeddfwriaeth uchod yn 2004. Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ac asiantaethau allweddol sy’n bartneriaid gydweithio er mwyn gwella lles plant a phobl ifanc yn yr ardal leol. Rhoddodd Deddf Plant 2004 ddyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i benodi cyfarwyddwr arweiniol ac aelod arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc.

Rhaid i fyrddau iechyd lleol ddynodi swyddogion arweiniol ac mae aelodau arweiniol Ymddiriedolaethau’r GIG yn dynodi cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol arweiniol â chyfrifoldebau sy’n adlewyrchu rhai cyfarwyddwr arweiniol yr awdurdod lleol.

Mae’n ofynnol i bob un o’r 22 Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc gynhyrchu cynllun plant a phobl ifanc sy’n nodi "sut y bydd lles plant a phobl ifanc yn cael ei wella".

Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Yn 2006 arweiniodd Deddf Llywodraeth Cymru at y posibilrwydd o ddatblygu rhagor o ddeddfwriaeth i gefnogi hawliau plant. Er ei bod yn amlwg nad oes gan y Cynulliad y pwer i ymgorffori’r CCUHP yng nghyfraith Cymru drwy fesur deddfwriaethol cyffredinol, gan fod hyn y tu hwnt i gwmpas y pwerau datganoledig, mae cyfleoedd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud deddfau sy’n darparu ar gyfer gweithredu hawliau plant yn well mewn meysydd polisi sy’n rhan o gylch gwaith y Cynulliad. Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn enghraifft o ddeddfwriaeth newydd sy’n dilyn yr CCUHP drwy’r saith nod craidd ac yn hyrwyddo hawliau plant ymhellach drwy fynd i’r afael â thlodi a gosod dyletswydd i ddarparu ar gyfer chwarae a chyfranogiad plant. 

Mesur deddfwriaethol ar yr CCUHP i Gymru

 

Mae’r ymrwymiad gwleidyddol a fynegwyd gan Brif Weinidog Cymru ar y pryd, Rhodri Morgan, i edrych ymhellach ar y posibilrwydd o gyflwyno mesur i sefydlu egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn mewn cyfraith ar ran plant Cymru yn nadl y Cynulliad Cenedlaethol ar 14 Gorffennaf 2009 i’w weld fel parhad o safiad sy’n cael ei fynegi’n gyson gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chan y Cynulliad Cenedlaethol. Roedd yn un sy’n cael cefnogaeth sylweddol ar draws y pleidiau yn y Cynulliad, fel y gwelir yn y cyfraniadau i’r ddadl honno.
Yn gynnar yn 2010 lansiwyd ymgynghoriad ar ddrafft o Fesur Arfaethedig ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc gan Lywodraeth Cynulliad Cymru; gellir dod o hyd i grynodeb o’r ymatebion yma ac mae papurau’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, fu’n craffu arno cyn y broses ddeddfu, i’w cael yma.
Ar Fehefin 14eg 2010 cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Huw Lewis y Mesur Arfaethedig ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) ac mae Pwyllgor Deddfwriaeth 5 Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn llywio’r mesur drwy’r broses graffu.  
 
Pwrpas y Mesur arfaethedig
Mae’r Mesur arfaethedig yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac ar Brif Weinidog Cymru i roi sylw dyledus i hawliau ac ymrwymiadau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’i Brotocolau Dewisol wrth wneud penderfyniadau polisi o natur strategol.
Bydd y Mesur arfaethedig yn ei gwneud hi’n ofynnol i Weinidogion Cymru i baratoi cynllun plant ac i gynhyrchu adroddiadau ynglyn â chydymffurfio gyda’r ddyletswydd i roi sylw dyledus i’r CCUHP a’i Brotocolau Dewisol, ynghyd â hyrwyddo dealltwriaeth o’r CCUHP a diwygio deddfwriaeth er mwyn gweithredu’r CCUHP a’i Brotocolau Dewisol yn well.
 
Mae’r Grwp Monitro CCUHP ynghyd â chyrff anllywodraethol eraill yng Nghymru, Comisiynydd Plant Cymru, Y Ddraig Ffynci a UNICEF UK oll wedi rhoi tystiolaeth i’r Cynulliad Cenedlaethol yn ceisio cryfhau’r Mesur er mwyn sicrhau bod y ddyletswydd o ran sylw dyledus yn berthnasol i’r holl benderfyniadau a gymerir gan Weinidogion sy’n cael effaith ar blant a phobl ifanc.
Er mwyn edrych ar y Mesur arfaethedig ynghyd â’r amserlen ddeddfwriaethol a’r dystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Deddfu yn ystod y broses graffu cliciwch yma
Am y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd y Mesur hwn ac ar bolisi a diwygio’r gyfraith yng Nghymru cliciwch yma

 

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk