CCUHP a Deddfwriaeth y DU

Casgliad o safonau gofynnol yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’n gytuniad rhyngwladol rhwymedigol a thrwy ei gadarnhau mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i roi i blant yr hawliau a’r amddiffyniadau sydd ynddo.

Rhaid i bob cyfraith, polisi ac ymarfer sy’n ymwneud â phlant fod yn gydnaws â’r hawliau sydd yn yr CCUHP a rhaid i unrhyw brosesau sy’n ymwneud â phlant mewn llysoedd neu mewn tribiwnlysoedd ei ddilyn. Fodd bynnag, mae’r CCUHP yn dal heb gael ei ymgorffori’n uniongyrchol yng nghyfraith y Deyrnas Unedig ac mae hyn yn gadael bylchau yn y broses o ddiogelu hawliau plant yn y Deyrnas Unedig.

Ni all plant a phobl ifanc fynd ag achos i’r llys dan yr CCUHP ac er bod rhai o’r hawliau dan yr CCUHP wedi’u cynnwys yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (sydd wedi’i ymgorffori yn Neddf Hawliau Dynol 1998) mae rhai hawliau sydd heb eu cynnwys, er enghraifft: yr hawl i safon byw ddigonol, yr hawl i chwarae, yr hawl i gael eich carcharu dim ond fel dewis olaf pan fo pob dim arall wedi methu, yr hawl i amddiffyniad rhag pob math o drais.

Er nad yw’n rhan ffurfiol o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol nac o gyfraith ddomestig y Deyrnas Unedig, mae’r CCUHP yn dylanwadu ar y ffordd y mae hawliau’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn cael eu dehongli gan y llysoedd ac mae hyn hefyd yn wir am y llysoedd domestig yng Nghymru a Lloegr. Mae un uwch farnwr wedi mynd cyn belled â dweud bod hyn yn golygu bod cyfraith hawliau dynol yn gosod rhwymedigaethau gorfodadwy sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus ystyried egwyddorion yr CCUHP (Munby J. yn R (Howard League for Penal Reform) v Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref a’r Adran Iechyd [2002]). Dywedodd y gallai, ac y dylai, llysoedd Cymru a Lloegr edrych ar yr CCUHP, i’r graddau y mae’n datgan, ailddatgan neu egluro cynnwys hawliau dynol, yn enwedig natur a chwmpas hawliau’r Confensiwn dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

Comisiynydd Plant Cymru

Gwelwyd y cyfeiriad cyntaf at y Confensiwn mewn unrhyw ddeddfwriaeth yn y Deyrnas Unedig yn Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Comisiynydd Plant ystyried y CCUHP wrth gyflawni ei swyddogaethau.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Yn 2006 cyflwynodd Deddf Llywodraeth Cymru y posibilrwydd o ddatblygu rhagor o ddeddfwriaeth i gefnogi hawliau plant. Er nad oes gan y Cynulliad y grym i ymgorffori’r CCUHP yng nghyfraith Cymru drwy fesur deddfwriaethol cyffredinol, gan fod hyn y tu hwnt i’w bwerau datganoledig, mae cyfleoedd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud deddfau sy’n caniatáu i hawliau plant gael eu gweithredu’n well mewn meysydd polisi sy’n rhan o gylch gwaith y Cynulliad.

Ymgorffori’r CCUHP yn Neddfwriaeth y DU
Mae’r Grwp Monitro CCUHP yn aelod o Glymblaid Hawliau’r Plentyn (ROCK), sef cynghrair o fudiadau o bob rhan o’r DU sy’n gweithio er mwyn sicrhau y daw’r CCUHP yn rhan o ddeddfwriaeth y DU. Am ragor o wybodaeth edrychwch yma a chadwch lygaid ar y dudalen Diwygio’r Gyfraith a Pholisi wrth iddi gael ei diweddaru. 


Experience the sports betting thrill.

betting websites uk