Erthyglau’r CCUHP

Mae erthyglau hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i’w gweld yn Erthyglau 1 i 41.

Gellir rhannu’r erthyglau hyn yn gyffredinol i wahanol is-gategorïau:

Hawliau Sifil a Gwleidyddol – Mae’r rhain yn ymwneud â rhyddid barn (erthygl 12), rhyddid mynegiant (erthygl 13), rhyddid i ymgysylltu (erthygl 15), rhyddid barn, crefydd a chydwybod (erthygl 14) a rhyddid mynediad at wybodaeth.

Hawliau Economaidd – Mae Erthygl 4 yn nodi mewn termau cyffredinol bod yn rhaid i wladwriaethau gymryd pob cam deddfwriaethol a gweinyddol priodol, a chamau priodol eraill, sy’n ymwneud â hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Yn fwy penodol, mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, yr hawl i ddiogelwch rhag ecsbloetio (erthyglau 32 a 36).

Hawliau Cymdeithasol – Erthygl 4 eto. Mae’r pennawd hwn hefyd yn ymwneud â’r hawl i addysg (erthyglau 28 a 29), gofal iechyd (erthygl 24) a nawdd cymdeithasol (erthygl 26).

Hawliau Diwylliannol – Yn ychwanegol at erthygl 4, unwaith eto yn y cyd-destun hwn mae angen i ni gyfeirio at erthygl 31, cydnabod yr hawl i orffwys a hamdden, i chwarae ac i gyfranogi’n llawn mewn bywyd diwylliannol a chelfyddydol. 

Er bod trafod hawliau mewn perthynas â chategorïau o’r fath yn gyffredin, mae’n bwysig cofio hefyd bod yr holl hawliau yn gyd-ddibynnol a bod yr holl ymrwymiadau yn orfodol i’r gwladwriaethau.  

Gellir rhannu’r Confensiwn hefyd yn dri chategori arall, sef hawliau sy’n ymwneud â Darpariaeth, Diogelu a Chyfranogi (y cyfeirir atynt fel y “3 P” yn Saesneg, sef Provision, Protection a Participation).

  • Hawliau yn ymwneud â Darpariaeth: hawliau sy’n ymwneud â’r adnoddau, y sgiliau a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu; y “mewnbwn” sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu i’w llawn botensial (e.e. gofal iechyd yn Erthygl 24).
  • Hawliau yn ymwneud â Diogelu: yr hawliau sy’n sicrhau bod plant yn cael eu diogelu rhag cael eu hecsbloetio neu eu cam-drin, gan oedolion yn bennaf, neu gan sefydliadau sy’n bygwth eu hurddas, eu goroesiad a’u datblygiad (e.e. amddiffyniad a gofal er lles y plentyn yn Erthygl 3).
  • Hawliau yn ymwneud â Chyfranogi: yr hawliau sy’n galluogi plant i ymwneud â’r prosesau newid hynny a fydd yn gwireddu eu hawliau, ac yn eu paratoi i chwarae rhan weithredol mewn cymdeithas a newid (e.e. yr hawl i fynegi barn a chael gwrandawiad mewn achosion cyfreithiol yn Erthygl 12).

Mae grwpio hawliau fel hyn yn ein helpu i ddeall na ellir gwahanu’r hawliau ac yn dangos sut mae’r gwahanol hawliau’n cydberthyn. Er enghraifft:

  • Er mwyn gallu cyfranogi’n llawn mewn cymdeithas mae angen i chi fod â safon byw ddigonol a pheidio â chael eich cam-drin.
  • Os ydych yn teimlo’n ddigon hyderus i fynegi eich barn rydych mewn gwell sefyllfa i ddiogelu eich hun a siarad am eich amgylchiadau byw.

Edrychwch ar ein hadran ar Gynnydd o ran Monitro  am ragor o wybodaeth ar gynnydd wrth weithredu’r hawliau hyn yng Nghymru.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk