Dadansoddiad o sefyllfa hawliau plant
Cynnal dadansoddiad da o’r sefyllfa yw'r ffordd orau o sicrhau eich bod yn cyflawni'r amcanion angenrheidiol er mwyn gwireddu hawliau plant. Mae'n ymwneud â chasglu’r wybodaeth briodol i allu gwneud asesiad synhwyrol o’r hyn y mae angen ei wneud er mwyn gwella bywydau plant. Dyma’r cam cyntaf hanfodol tuag at sefydlu blaenoriaethau a gwneud dewisiadau priodol. Mae dadansoddiad o sefyllfa’n gosod y sail ar gyfer asesu cynnydd a gwerthuso effaith hirdymor ymyriad.
Nid proses unwaith ac am byth yw deall sefyllfa plant a phobl ifanc yn eich ardal. Dylid ei hadeiladu dros gyfnod. Mae'n ymwneud â mapio faint o hawliau sy’n cael eu treisio. Mae hefyd yn cynnwys dadansoddiad o'r ffactorau sylfaenol sy’n achosi i hawliau plant gael eu treisio. Dylid dadansoddi’r ddeddfwriaeth a’i gweithrediad ynghyd ag agweddau diwylliannol. Dylid ymgynghori â phlant a phobl ifanc drwy gydol y broses a rhoi ystyriaeth briodol i'w barn. Dylid nodi pwy yw'r deiliaid dyletswydd a’r prif weithredwyr.
Dylai'r dadansoddiad gynnwys:
1. Archwiliad i weld pa hawliau sy’n cael eu treisio yn yr ardal ddaearyddol dan sylw
- Pa hawliau sy’n cael eu treisio neu sydd ddim yn cael eu gwireddu?
- Ar ba grwpiau o blant y mae’r broblem yn effeithio fwyaf?
- Beth yw’r ffactorau (uniongyrchol, gwaelodol, sylfaenol) sy’n achosi i’r hawliau gael eu treisio?
2. Dadansoddiad o gyfrifoldeb
- Pwy yw’r prif ddeiliaid dyletswydd? Beth yw eu cyfrifoldebau?
- Beth yw’r cyfleoedd a’r ffactorau sy’n cynorthwyo deiliaid dyletswydd i gyflawni eu cyfrifoldebau?
- Beth yw’r rhwystrau sy’n atal deiliaid dyletswydd rhag cyflawni eu dyletswyddau?
- Sut y gellir goresgyn y rhwystrau?
3. Penderfynu pa gamau rydych am roi blaenoriaeth iddynt a chyda phwy rydych am weithio
- Beth yw’r blaenoriaethau gweithredu ar gyfer eich sefydliad?
- Beth yw amcanion y camau gweithredu hyn?
- Gyda pha sefydliadau ac adrannau y gallwch weithio? Pwy yw eich cynghreiriaid?