Grwp Monitro CCUHP Cymru

Cynghrair genedlaethol o gyrff anllywodraethol ac asiantaethau academaidd sy’n cael ei galw ynghyd a’i chadeirio gan raglen Achub y Plant yng Nghymru yw Grwp Monitro CCUHP Cymru. Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru yw Cadeirydd y grwp a Swyddog Hawliau Plant a Pholisi Achub y Plant sy’n cydgysylltu gwaith y grwp. Mae’r grwp yn gyfrifol am fonitro a hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru.

Mae aelodau Grwp Monitro CCUHP Cymru’n cynnwys: Action for Children – Gweithredu dros Blant, Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig Prifysgol Aberystwyth, Barnardo’s Cymru, Adran Iechyd Plant Prifysgol Caerdydd, Plant yng Nghymru, Draig Ffynci, Nacro Cymru, NSPCC Cymru, Achub y Plant yng Nghymru (Cadeirydd), Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe. Sylwedyddion: Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Uned Cefnogi Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc.

Fel rhan o broses fonitro Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ysgrifennodd y Grwp adroddiad interim yn 2006 dan y teitl Cywiro’r cam: realiti hawliau plant yng Nghymru. Hwn oedd yr adroddiad cyntaf a mwyaf ar gyflwr hawliau plant yng Nghymru a chafodd ei lansio mewn cynhadledd boblogaidd iawn yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe yn Ionawr 2006.

Yn 2007, ysgrifennodd y Grwp Aros, edrych, gwrando: sut mae gwireddu hawliau plant yng Nghymru, sef adroddiad amgen cyrff anllywodraethol Cymru, a gyflwynwyd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel rhan o broses adrodd Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig.

Nodau Grwp Monitro CCUHP Cymru :

1. Gweithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau bod y gwaith o fonitro’r CCUHP yng Nghymru’n cael ei gydgysylltu’n effeithiol.

2. Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu dangosyddion fel camau dilynol i’r CCUHP.

3. Monitro gweithrediad yr CCUHP yng Nghymru drwy gasglu gwybodaeth am ymchwil a chofnodi materion.

4. Sicrhau bod trefniadau wedi’u gwneud ar gyfer cyflwyno adroddiadau’n effeithiol i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn drwy gael Llywodraeth Cynulliad Cymru, pobl ifanc, sefydliadau hawliau dynol annibynnol a chyrff anllywodraethol i weithio gyda’i gilydd yn y broses hon.

5. Annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau monitro ac adrodd.

6. Adnabod cyfleoedd i ddylanwadu ar y llywodraeth – Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

7. Cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, yn enwedig plant a phobl ifanc, o’r CCUHP.

8. Cynnal ymgyrchoedd ar faterion yn ymwneud â’r CCUHP.

9. Rhannu gwybodaeth a hyrwyddo rhwydweithiau yng Nghymru..

10. Sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli mewn fforymau a digwyddiadau drwy’r Deyrnas Unedig sy’n ymwneud â’r CCUHP.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk