Camau gweithredu cyffredinol

Ar ôl i lywodraeth gadarnhau’r CCUHP, mae’n cael ei rhwymo dan gyfraith ryngwladol i weithredu darpariaethau’r Confensiwn. Strategaethau yw’r Camau Gweithredu Cyffredinol sydd wedi’u nodi gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn er mwyn i Lywodraethau eu defnyddio i sicrhau bod pob plentyn yn mwynhau holl hawliau’r Confensiwn.

Mae Erthyglau 4, 42, 44 para 6, a 41 yn cynnwys y Camau Cyffredinol hyn.

Maent yn ymwneud â deddfwriaeth, sefydlu cyrff cydgysylltu a monitro – llywodraethol ac annibynnol – casglu data cynhwysfawr, codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant, monitro cyllidebau a datblygu a gweithredu polisïau, gwasanaethau a rhaglenni priodol.

Erthygl 4: "Dylai Gwladwriaethau sy’n barti i’r Confensiwn gymryd pob cam deddfwriaethol a gweinyddol priodol, a chamau eraill er mwyn gweithredu’r hawliau sy’n cael eu cydnabod yn y Confensiwn presennol. O ran hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, dylai Gwladwriaethau sy’n barti i’r Confensiwn ymgymryd â’r cyfryw gamau gan wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael iddynt a, lle bo angen, o fewn fframwaith cydweithrediad rhyngwladol."

Erthygl 42: Y rhwymedigaeth i wneud cynnwys y Confensiwn yn hysbys i blant ac oedolion.

Erthygl 44.6: Rhaid i lywodraethau sicrhau bod eu hadroddiadau ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol.

Erthygl 41: Rhaid i lywodraethau barchu safonau sy’n bodoli’n barod ym maes hawliau plant os ydynt yn uwch na’r safon a bennwyd gan yr CCUHP.

Mae Pwyllgor Confensiwn y Cenhedloedd Undeb ar Hawliau’r Plentyn hefyd wedi cyhoeddi Sylw Cyffredinol ar y Camau Gweithredu Cyffredinol. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys canllawiau a strategaethau manylach ynglyn â sut y dylid gweithredu’r Confensiwn:

Llyfryn defnyddiol: The General Measures of the Convention on the Rights of the Child – The Process in Europe and Central Asia, Canolfan Ymchwil Innocenti, UNICEF.

Golwg gyffredinol ar y gwahanol fesurau gweithredu cyffredinol

Diwygio’r gyfraith "Mae’n hollbwysig sicrhau bod pob deddfwriaeth ddomestig yn gwbl gydnaws â’r Confensiwn a bod modd cymhwyso egwyddorion a darpariaethau’r Confensiwn yn uniongyrchol a’u gorfodi’n briodol. "

Dylai Gwladwriaethau adolygu deddfwriaeth genedlaethol a sicrhau bod cyfreithiau cenedlaethol yn cydweddu â’r hawliau a nodwyd yn yr CCUHP. Yn ychwanegol at hyn, anogir Gwladwriaethau i adolygu a dileu unrhyw gymalau cadw a wnaethpwyd ar gyfer erthyglau’r Confensiwn a chadarnhau offerynnau rhyngwladol perthnasol eraill, megis y ddau Brotocol Dewisol.

Llyfryn defnyddiol: Law Reform and implementation of the United Nations Convention on the Rights of the Child, Canolfan Ymchwil Innocenti UNICEF.

Sefydliadau hawliau dynol annibynnol ar gyfer plant

Dylai sefydliadau hawliau dynol annibynnol ar gyfer plant sy’n cael eu sefydlu fod yn ategol i sefydliadau llywodraethol sy’n monitro’u hunain, ac ni ddylent gymryd eu lle. Mae’r Pwyllgor yn manylu ynglyn â’r mater hwn yn Sylw Cyffredinol 2 sy’n trafod rôl sefydliadau hawliau dynol cenedlaethol annibynnol wrth hyrwyddo a diogelu hawliau’r plentyn.

Dylai’r sefydliadau hyn fod wedi’u teilwrio er mwyn hyrwyddo a diogelu hawliau’r plentyn. Mae mwy a mwy o wladwriaethau’n sefydlu sefydliadau hawliau dynol annibynnol ar gyfer plant – boed yn ombwdsmyn ar wahân ar gyfer plant neu’n gomisiynwyr hawliau plant, neu adrannau sy’n canolbwyntio ar hawliau plant mewn comisiynau hawliau dynol neu swyddfeydd ombwdsmyn cyffredinol. Yn Ewrop, daeth sefydliadau plant o ddeuddeg gwlad at ei gilydd yn 1997 i ffurfio Rhwydwaith Ombwdsmyn Plant Ewrop (ENOC). Erbyn 2007, roedd wedi tyfu i gynnwys 32 sefydliad mewn 23 o wledydd. Ceir mwy o wybodaeth ar wefan ENOC. Ceir gwybodaeth am Gomisiynydd Plant Cymru  yma ac yma.

Cynlluniau gweithredu cenedlaethol

Er mwyn hyrwyddo a diogelu hawliau’r plentyn ar bob lefel, mae angen i Wladwriaethau ddatblygu strategaeth genedlaethol gynhwysfawr ar gyfer plant sy’n seiliedig ar yr CCUHP. Rhaid i’r strategaeth osod targedau realistig a chyraeddadwy a rhaid iddi gynnwys dyraniad digonol o adnoddau dynol, ariannol a sefydliadol.

Lywodraeth Gydgysylltiedig

Er mwyn gweithredu’r CCUHP yn llawn mae angen cydgysylltu effeithiol, yn llorweddol rhwng asiantaethau ac adrannau’r llywodraeth, ac yn fertigol rhwng gwahanol lefelau o’r llywodraeth, rhwng y lleol, y rhanbarthol a’r canolog, a hefyd rhwng y llywodraeth a’r sector preifat.

Monitro ac adrodd, a chasglu data’n effeithiol

Mae dau fath o fonitro: y math cyntaf yw monitro achosion o dreisio hawliau; yr ail fath yw monitro gweithrediad y Confensiwn.

Mae’r Pwyllgor yn annog Gwladwriaethau i ddefnyddio dulliau gwahanol er mwyn casglu data ansoddol a meintiol. Gall y rhain gynnwys cyfweld plant yn uniongyrchol a gofyn am eu barn a’u safbwyntiau. Fodd bynnag, yn ogystal â chasglu data, mae’n bwysig bod data’n cael eu gwerthuso’n briodol a bod y canlyniad yn cael ei ddefnyddio i ddylanwadu ar bolisi.

Dyrannu adnoddau ar gyfer plant (dadansoddi cyllidebau, ac ati)

Disgwylir i Wladwriaethau ddyrannu cyllideb ar gyfer plant gan ddefnyddio "cymaint ag y bo modd o’r adnoddau sydd ar gael". Dylid cymryd camau ar bob lefel yn y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod pennaf les plant yn un o’r prif ystyriaethau wrth wneud cynlluniau a phenderfyniadau economaidd a chymdeithasol a phenderfyniadau cyllidebol a bod plant yn cael eu diogelu rhag effeithiau anffafriol polisïau economaidd neu ddirywiad ariannol.

Addysg, hyfforddiant a chynyddu ymwybyddiaeth o'r CCUHP

Dylai’r gwaith o gynyddu ymwybyddiaeth o’r CCUHP fod wedi’i anelu at oedolion a phlant fel ei gilydd. Dylai testun y Confensiwn fod wedi’i ddosbarthu’n eang a dylai fod wedi’i gyflwyno mewn iaith ddealladwy, e.e. drwy gyhoeddi fersiwn o’r CCUHP sy’n addas i blant. Yn ychwanegol at hyn, dylai adroddiadau a gyflwynir gan Wladwriaethau i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig fod ar gael yn rhwydd i’r cyhoedd mewn gwahanol leoedd.

Fel rhan o’r broses o ennyn ymwybyddiaeth, mae angen i blant ddysgu am eu hawliau a’r CCUHP. Dylai hyn gael ei ymgorffori yng nghwricwlwm yr ysgol ar gyfer pob cyfnod. Yn ychwanegol at hyn, dylai addysg ymestyn i hyfforddi a datblygu potensial pobl sy’n gweithio gyda phlant. Mae’r rhain yn cynnwys seicolegwyr plant, athrawon, gweithwyr iechyd, gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu ac eraill.

Cydweithio â’r gymdeithas sifil (gan gynnwys plant)

Yn sylw cyffredinol 5 mae’r Pwyllgor yn dweud mai’r “Gwladwriaethau sy’n barti i’r Confensiwn sydd wedi’u rhwymo i weithredu’r Confensiwn, ond mae angen cysylltu â phob rhan o’r gymdeithas, gan gynnwys y plant eu hunain”. Dylai cyrff anllywodraethol, y cyfryngau, cymdeithas sifil, a phlant a phobl ifanc yn fwyaf arbennig, gymryd rhan yn y broses ac ymwneud yn uniongyrchol â hi.

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk