Deddfwriaeth wrthwahaniaethol

Mae deddfwriaeth wrthwahaniaethol yn deillio o nifer o ffynonellau: deddfwriaeth y Deyrnas Unedig, cyfraith hawliau dynol a darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd. Mae prif ddeddfwriaethau’r Deyrnas Unedig i’w gweld yn y tabl isod.

Ceir darpariaethau gwrthwahaniaethol ehangach yn Erthygl 14 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, Erthygl 2 o’r CCUHP ac Erthygl 19 o'r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd. 

Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 yn darparu ar gyfer sefydlu un Comisiwn Cydraddoldeb ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol â chyfrifoldebau am gydraddoldeb ac amrywiaeth, hyrwyddo hawliau dynol a gorfodi deddfiadau cydraddoldeb penodol.

Gwahaniaethu ar sail... Deddfwriaeth y Deyrnas Unedig
Hil, lliw, cenedligrwydd, ethnigrwydd neu wlad y terddir ohoni Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976
Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000
Rheoliadau Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2003
Rhyw a statws priodasol Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975
Deddf Cyflog Cyfartal 1970
Anabledd Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001
Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2006
Crefydd a chred Deddf Cydraddoldeb 2006
Cyfeiriadedd rhywiol Deddf Cydraddoldeb 2006

Nid oes yr un o ddeddfiadau cydraddoldeb y Deyrnas Unedig yn rhoi sylw i wahaniaethu yn erbyn plant ar y sail mai plant ydynt. Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 yn rhoi cylch gwaith eang iawn i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sef hybu cysylltiadau da rhwng ‘grwpiau’. Gellir diffinio ‘grwp’ yn ôl oedran, ymhlith meini prawf eraill, ac mae hynny’n golygu y gallai plant fod yn ‘grwp’ i’r diben hwn. Nid yw’r ddarpariaeth hon yn ddyletswydd i beidio â gwahaniaethu na hyd yn oed yn ddyletswydd i hybu triniaeth gyfartal ond mae’n bosib y gellid ei defnyddio i hybu gwell mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau i blant.

 

Derbyniodd Deddf Cyfartaledd 2010 Gydsyniad Brenhinol ar 8 Ebrill 2010. Yn benodol, nid yw’r Ddeddf, sy’n dod â’r holl ddeddfwriaeth bresennol ar gamwahaniaethu ynghyd, ac sy’n lledu gwarchodaeth rhag triniaeth annheg, yn rhoi gwarchodaeth gyfreithiol i blant a phobl ifanc rhag camwahaniaethu ar sail oedran. Mae parhau i beidio â gwarchod plant a phobl ifanc rhag camwahaniaethu annheg ar sail oedran yn achos nwyddau a gwasanaethau, a pheidio â chynnwys ysgolion a chartrefi plant rhag yr elfen oedran yn nyletswydd cyfartaledd y sector cyhoeddus, wedi arwain at ymgyrch gan y grwp Young Equals, yn gweithio gyda’r mudiad Childrens' Rights Alliance England (CRAE) – edrychwch ar eu hadroddiad Making the Case a’u gweithgareddau lobïo yma.
 
Am ragor o wybodaeth am Ddeddf Cyfartaledd 2010 edrychwch ar wefan EHRC yma.

 

 

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk